Modiwl LCE-3200:
Astudio'r Cyfryngau
Astudio'r Cyfryngau 2023-24
LCE-3200
2023-24
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1 & 2
20 credits
Module Organiser:
Andrew Edwards
Overview
Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr astudio pwnc cyfoes sy'n berthnasol i un neu fwy o wledydd/rhanbarthau lle y siaredir yr iaith darged. Gwyntyllir y pwnc a ddewisir drwy brism y wasg a'r cyfryngau, er mwyn magu dealltwriaeth o'r pwnc penodol ond hefyd o'r cyhoeddiadau a chyfryngau sydd ar gael yn y gymdeithas dan sylw. Bydd yr adroddiad terfynol yn cynnwys dadansoddiad o sut y mae mathau cyferbyniol o gyhoeddiadau a chyfryngau yn ymdrin â'r pwnc, yn ogystal ag asesiad o'u pwysigrwydd wrth ddylanwadu ar farn y cyhoedd. Ysgrifennir yr adroddiad yn yr iaith darged, ac atodir y deunyddiau a drafodir wrtho.
Erthyglau o'r cyfryngau a'r wasg a gesglir gan y myfyriwr fydd y prif ddeunyddiau ar gyfer y modiwl hwn. Bydd llawer o ddeunyddiau o'r fath ar gael ar-lein; bydd deunyddiau eraill ar gael ar ffurf gylchgronau a phapurau newydd a archebir gan yr Ysgol Ieithoedd a Diwylliannau Modern.
Bydd darllen ehangach yn dibynnu ar y pwnc a ddewisir, a bydd yn cynnwys yn bennaf gyhoeddiadau printiedig a ffynonellau ar-lein.
Learning Outcomes
- Cyflwyno a strwythuro dadleuon mewn astudiaeth estynedig annibynnol, a gefnogir gan dystiolaeth destunol ac ymwybyddiaeth gymdeithasol, ddiwylliannol a gwleidyddol ehangach.
- Dangos dealltwriaeth a sgiliau ysgrifennu uwch yn yr iaith darged.
- Dangos dealltwriaeth ehangach o oblygiadau cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol y pwnc a ddewisir.
- Dangos dealltwriaeth fanwl o bwnc cyfoes mewn un neu fwy o wledydd / rhanbarthau lle siaredir yr iaith darged.
- Dangos dealltwriaeth glir o'r wasg a'r cyfryngau mewn cymdeithas benodol trwy astudiaeth fanwl o fathau cyferbyniol o gyhoeddiadau a chyfryngau, ac asesiad o'u dylanwad ar farn y cyhoedd.
- Dangos dealltwriaeth uwch o'r defnydd o rethreg yn yr iaith darged, a'r gallu i ddadansoddi amrywiaeth o arddulliau a chyweiriau.
Assessment type
Summative
Weighting
10%
Assessment type
Summative
Weighting
10%
Assessment type
Summative
Weighting
80%