Modiwl LCF-1004:
Ffrangeg i Ddechreuwyr II
Ffrangeg i Ddechreuwyr II 2022-23
LCF-1004
2022-23
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 2
20 credits
Module Organiser:
Jonathan Lewis
Overview
Mae'r modiwl hwn ar gyfer myfyrwyr yn y flwyddyn gyntaf sydd wedi cwblhau Ffrangeg i Ddechreuwyr 1 (LCF-1003).
Nod y modiwl yw datblygu'r sgiliau siarad, gwrando ac ysgrifennu sylfaenol a ddysgwyd yn semester 1 er mwyn cyrraedd lefel sy'n cyfateb i Lefel A.
Bydd myfyrwyr yn defnyddio'r ramadeg a ddysgwyd yn semester 1 wrth ysgrifennu darnau mwy estynedig, gan ganolbwyntio ar gystrawennau mwy cymhleth ac ehangu geirfa.
Caiff sgiliau gwrando eu datblygu trwy ymarferion sain a fideo. O ran datblygu sgiliau llafar, bydd y myfyrwyr yn trafod mwy yn yr iaith darged.
Testunau allweddol:
Action Grammaire! 3ydd argraffiad gan Phil Turk & Geneviève García Vandaele (Hodder Education, 2006).
The French Experience 1, Marie Therese Bougard, Daniele Bourdais (BBC Publications, 2003)
Rhoddir y cyngor canlynol ynghylch prynu geiriadur:
Efallai y bydd geiriadur cryno (nid geiriadur poced) yn ddigon, ond dylech ystyried cael geiriadur cyfieithu 'go iawn' fel Collins-Robert neu Oxford-Hachette, a dysgu ei ddefnyddio'n effeithiol ac yn rheolaidd.
Learning Outcomes
- Adeiladu ar y sgiliau a ddatblygwyd yn ystod semester 1 (modiwl LCF/LZF-1003).
- Cyfathrebu'n fedrus yn Ffrangeg ynghylch nifer o bynciau mwy cymhleth.
- Cyfuno cystrawennau gramadeg a geirfa er mwyn mynegi barn ynghylch themâu newydd a / neu anghyfarwydd.
- Darllen amrywiaeth o destunau mewn Ffrangeg safonol, e.e. papurau newydd, cylchgronau, nofelau ayb.
- Datblygu sgiliau gwrando a deall drwy wrando ar y radio neu ar gerddoriaeth, gwylio teledu a ffilmiau ayb.
- Gallu ysgrifennu darnau mwy estynedig mewn Ffrangeg cywir a dealladwy.
Assessment type
Crynodol
Description
Assignment
Weighting
20%
Assessment type
Crynodol
Description
Test
Weighting
20%
Assessment type
Crynodol
Description
Oral Exam
Weighting
20%
Assessment type
Crynodol
Description
Written Exam
Weighting
40%