Modiwl SCL-2115:
Materion Cyfoes Cyfreithiol yn y Gymraeg
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of History, Law and Social Sciences
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1 a 2
Trefnydd: Ms Sarah Thomas Morgan
Amcanion cyffredinol
Mae'r Materion Cyfoes Cyfreithiol yn y Gymraeg yn fodiwl dewisol yn y rhaglen LLB. Nod y modiwl hwn yw cyflwyno materion cyfoes o fewn maes y gyfraith, a galluogi myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau angenrheidiol er mwyn iddynt allu dadansoddi'r materion yn feirniadol yn y Gymraeg. Mae'r modiwl yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau gwahanol i'r arfer, wrth annog myfyrwyr i drafod testunau cyfreithiol mewn amryw o ffyrdd gwahanol, yn hytrach na mewn traethodau ac arholiadau. Wrth wneud hyn, fydd myfyrwyr yn gallu mynegi barn eu hunain yn hyderus, ac yn mynd ymlaen i fod yn gyfreithwyr sy'n meddwl yn feirniadol.
Current Legal Issues (in Welsh) is an optional module on the LLB programme. The aim of the module is to introduce current issues in law, and to enable students to develop the necessary skills to critically analyse the material in Welsh. The module focuses on developing different skills to the norm, by encouraging students to discuss legal topics in a variety of different ways, rather than in essays and exams. In doing so, students will be able to express their own opinions with confidence, going forward to become critical thinking lawyers.
Cynnwys cwrs
Wrth ganolbwyntio ar faterion cyfoes, fydd y modiwl yn un cyffroes a hyblyg, gan ddibynnu ar y fath materion cyfreithiol sydd yn y newyddion. Fydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i destunau o fewn cyfraith ryngwladol a materion dramor, datganoli, a Brexit. Gall math destunau gynnwys annibyniaeth Cymru, morladron, hawliau dynol ac erthyliadau, llywyddiaeth Donald Trump a mwy.
Bydd y modiwl yn cynnwys elfen gref o ddatblygu sgiliau ymchwil gyfreithiol er mwyn cyflawni tasgau megis cyflwyno ar bwnc cyfoes, ysgrifennu blog, a chymryd rhan mewn dadl.
By focusing on current legal issues in the news, the module will be exciting and flexible. The module will introduce students to topics within international law and foreign relations, devolution and Brexit. Such topics could include, Wales' independence, piracy, human rights and abortion, Donald Trump's presidency, and more.
The module will contain a strong element of developing legal research skills to complete assignments such as presenting on a current topic, writing a blog and taking part in a debate.
Meini Prawf
ardderchog
A- i A* Tystiolaeth o lawer o ymchwil gyfreithiol effeithiol yn arwain at atebion sydd yn rhagorol yn eu cyflwyniad o'r pwnc, yn rhagorol o ran cynnwys a dadansoddiad, ac yn cynnwys dim ond yr hyn sy'n berthnasol i'r ateb. Meistrolaeth ardderchog ar gywirdeb wrth siarad ac ysgrifennu y Gymraeg yng nghyd-destun y gyfraith.
C- i C+
C- i C+ (Gwybodaeth o'r prif feysydd ac egwyddorion. Dealltwriaeth o'r prif bwyntiau a thystiolaeth gyfyngedig o wybodaeth gefndirol. Ateb yn ffocysu ar y cwestiwn, ond rhai deunyddiau amherthnasol a thai gwendidau ffurfiannol. Rhai dadlau i'w gweld o fewn y gwaith, ond diffyg cydlyniad. Dim dehongliad gwreiddiol, dim digon o dystiolaeth datrys problemau. Rhai gwendidau yn gyflwyniad y gwaith.
trothwy
D- i D+ Peth ymchwil gyfreithiol effeithiol yn arwain at atebion sydd yn gywir gan fwyaf yn eu cyflwyniad o'r pwnc, ond ychydig yn ddiffygiol o ran cynnwys ac yn eithaf annibynadwy ar adegau. Peth meistrolaeth ar gywirdeb wrth siarad ac ysgrifennu y Gymraeg yng nghyd-destun y gyfraith. Peth meistrolaeth ar gyweiriau llafar ac ysgrifenedig y Gymraeg yng nghyd-destun y gyfraith. Peth dealltwriaeth o rai dulliau o loywi iaith gan gynnwys offer cyfrifiadurol. Peth meistrolaeth ar sgiliau ysgrifennu nodiadau cydlynus, crynhoi, trawsieithu, drafftio, ysgrifennu nodau achos, a chyfieithu deunydd cyfreithiol. Peth adnabyddiaeth o wahanol gyweiriau'r Gymraeg.
da
B- i B+ Tystiolaeth o gryn ymchwil gyfreithiol effeithiol yn arwain at atebion sydd yn gywir yn eu cyflwyniad o'r pwnc, yn gywir o ran cynnwys, ond yn cynnwys elfennau amherthnasol ac yn brin o ddadansoddi. Meistrolaeth dda ar gywirdeb wrth siarad ac ysgrifennu y Gymraeg yng nghyd-destun y gyfraith. Meistrolaeth dda ar gyweiriau llafar ac ysgrifenedig y Gymraeg yng nghyd-destun y gyfraith. Dealltwriaeth dda o rai dulliau o loywi iaith gan gynnwys offer cyfrifiadurol. Meistrolaeth dda ar sgiliau ysgrifennu nodiadau cydlynus, crynhoi, trawsieithu, drafftio, ysgrifennu nodau achos, a chyfieithu deunydd cyfreithiol. Adnabyddiaeth dda o wahanol gyweiriau'r Gymraeg.
Canlyniad dysgu
-
Ateb cwestiynau llafar am y gyfraith mewn sefyllfa holi ac ateb.
-
Trosi deunydd cyfreithiol o'r Saesneg i'r Gymraeg.
-
Adnabod a thrafod materion cyfoes gan ddefnyddio dull amlgyfrwng (megis papurau newydd, y newyddion, y we).
-
Canfod, adnabod a defnyddio ffynonellau perthnasol ar gyfer ymchwil gyfreithiol.
-
Bod yn ymwybodol o wahanol gyd-destunau iaith (ar lafar ac yn ysgrifenedig) a'r modd y dylid eu defnyddio yn ôl y sefyllfa, y diben a'r gynulleidfa.
-
Crynhoi deunydd cyfreithiol yn y Gymraeg.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
GWAITH CWRS | Cyflwyniad | Cyflwyniad 25% Erthygl Barn (Blog) 25% Dadl 50% |
40.00 |
LLAFAR | Dadl | 40.00 | |
INDIVIDUAL BLOG | Erthygl Barn | 20.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Private study | Bydd disgwyl i fyfyrwyr baratoi'n annibynnol ar gyfer rhai seminarau ac wrth baratoi'r aseiniadau. |
160 |
Seminar | Bydd y modiwl hwn yn cael ei ddysgu mewn seminarau dwy awr, un bob wythnos yn ystod semester 1 a 2. Yn y seminarau bydd yn ofynnol i’r myfyrwyr gyfrannu’n unigol ac mewn grwpiau o dan arweiniad y darlithydd gan wneud sylwadau a defnyddio egwyddorion a manylion y pwnc maent yn ei ddysgu. Bydd darlithwyr yn trafod a cyflwyno elfennau gwahanol o'r gyfraith, megis cyfraith rhyngwladol a datganoli, ac yn rhoi cyflwyniad i'r myfyrwyr ynglyn a'r prif agweddau ac ynglyn a'r termau Cymraeg cyffredin yn y meysydd hynny. Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i drafod y meysydd hyn drwy'r Gymraeg gyda chefnogaeth y darlithydd. |
40 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Sgiliau pwnc penodol
- Develop the ability to interpret legal rules and employ techniques of legal reasoning competently and efficiently in order to offer a range of solutions and conclusions to actual or hypothetical complex legal problems, all supported by relevant academic literature, jurisprudence and legislative research. Such solutions will be clearly communicated and presented
- Develop the ability to analyse complex legal issues, set against the background of the political, social, economic or cultural contexts in which they may arise
- Develop those skills which are necessary for scholarship and research in legal subjects, namely the ability to identify relevant primary and secondary legal sources and to retrieve accurate legal information using paper and electronic sources
Adnoddau
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/scl-2115.htmlRhestr ddarllen
Mi fydd y myfyrwyr yn defnyddio yr un llyfryddiaeth a'r modiwlau gorfodol gradd y Gyfraith.
Rhagofynion a Chydofynion
Cydofynion
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- NM11: BA Business and Law year 2 (BA/BUSALAW)
- NM1B: BA Business and Law (4 year with Incorporated Foundation) year 2 (BA/BUSLAW1)
- M100: LLB Law year 2 (LLB/L)
- M11B: LLB Law (4 year with Incorporated Foundation) year 2 (LLB/L1)