Modiwl UXC-1038:
Cyflwyniad i Ymarfer y Cyfryngau
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Languages, Literatures, Linguistics and Media
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Mr Huw Powell
Amcanion cyffredinol
Amcan y cwrs hwn yw cyflwyno myfyrwyr i ymarfer y cyfryngau. Caiff myfyrwyr hyfforddiant sylfaenol ar ddefnyddio offer cynhyrchu fideo a chlywedol.
Gan weithio mewn grwpiau bychain, bydd disgwyl i'r myfyrwyr gynhyrchu dau ddarn o waith creadigol, y naill ar ffurf fideo a'r llall ar ffurf glywedol. Yna bydd disgwyl i'r myfyrwyr adfyfyrio'n feirniadol ar y proses cynhyrchu a'r darnau o waith terfynol, gan gyfeirio at ystod o theorïau.
Cynnwys cwrs
Bydd y cwrs hwn yn cyflwyno myfyrwyr i'r sgiliau a'r technegau sylfaenol fydd yn eu galluogi i archwilio egwyddorion cynhyrchu'r cyfryngau trwy waith creadigol.
Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau i gynhyrchu dau destun cyfryngau byr, gan ddefnyddio offer darlledu safonol. Caiff myfyrwyr hefyd eu dysgu i ddadansoddi eu gwaith eu hunain yng nghyd-destun theori, a chreu cysylltiad rhwng theori ac ymarfer cynhyrchu'r cyfryngau.
Meini Prawf
trothwy
Trothwy (40%+)
Mae'r gwaith a gyflwynwyd yn foddhaol ac yn dangos lefel dderbyniol o allu fel a ganlyn:
- Cywir ar y cyfan ond yn cynnwys gwallau ac yn gadael pethau allan.
- Yn gwneud honiadau heb dystiolaeth na rhesymu cefnogol eglur.
- Yn strwythuredig ond yn aneglur ac felly'n dibynnu ar y darllenydd i wneud cysylltiadau a rhagdybiaethau.
- Yn defnyddio ystod gymharol gyfyng o ddeunydd.
ardderchog
Rhagorol (70%+)
Mae'r gwaith a gyflwynir o safon eithriadol ac yn rhagorol mewn un neu fwy o'r ffyrdd canlynol:
- Mynegiant gwreiddiol a syniadau'r myfyriwr ei hun yn gwbl amlwg.
- Yn rhoi tystiolaeth eglur o astudio annibynnol helaeth a pherthnasol.
- Cyflwynir dadleuon yn eglur gan alluogi'r darllenydd i ystyried fesul cam er mwyn dod i gasgliadau.
da
Da (50%+)
Mae'r gwaith a gyflwynir yn fedrus trwyddo draw ac o bryd i'w gilydd gwelir arddull a dull rhagorol a dewis rhagorol o ddeunyddiau cefnogol. Mae'n dangos:
- Strwythur da a dadleuon a ddatblygir yn rhesymegol.
- Mae'n defnyddio'n rhannol, o leiaf, ddeunydd a gafwyd ac a aseswyd o ganlyniad i astudio annibynnol, neu mewn ffordd sy'n unigryw i'r myfyriwr.
- Ar y cyfan mae'r honiadau'n seiliedig ar dystiolaeth ac ar resymu cadarn.
- Manwl gywir ac wedi ei gyflwyno mewn arddull academaidd briodol.
Da iawn (60%+)
Mae'r gwaith a gyflwynir yn fedrus trwyddo draw a gwelir arddull a dull rhagorol a dewis rhagorol o ddeunyddiau cefnogol. Mae'n dangos:
- Strwythur da iawn a dadleuon a ddatblygir yn rhesymegol.
- Mae'n defnyddio deunydd a gafwyd ac a aseswyd o ganlyniad i astudio annibynnol, neu mewn ffordd sy'n unigryw i'r myfyriwr.
- Mae'r honiadau'n seiliedig ar dystiolaeth ac ar resymu cadarn.
- Manwl gywir ac wedi ei gyflwyno mewn arddull academaidd briodol.
Canlyniad dysgu
-
Dangos dealltwriaeth o'r prosesau ar gyfer cynhyrchu testunau'r cyfryngau.
-
Dangos sgil technegol sylfaenol mewn un agwedd ar gynhyrchiad grwp.
-
Edrych yn feirniadol ar y broses o gynhyrchu'r cyfryngau yng nghyd-destun theori cynhyrchu'r cyfryngau.
-
Dangos y gallu i weithio fel rhan o dîm cynhyrchu.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Traethawd 1000 gair | 25.00 | ||
Cynhyrchiad Sain | 25.00 | ||
Arfarniad Cynhyrchu | 25.00 | ||
Log Cyfraniad Unigol | 25.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Private study | 167 | |
Practical classes and workshops | Gweithdy, 3 awr yr wythnos |
33 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Ymwybyddiaeth o ddiogelwch - Bod yn ymwybodol o'ch amgylchedd a hyder o ran cadw at reoliadau iechyd a diogelwch
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Rhagofynion a Chydofynion
Rhagofynnol ar gyfer:
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- Q5P5: BA Cymraeg gyda Newyddiaduraeth year 1 (BA/CN)
- PQ53: BA English Language & Journalism year 1 (BA/ELJO)
- V1PM: BA Hanes gyda Newyddiaduraeth year 1 (BA/HN)
- PP53: BA Journalism and Media Studies year 1 (BA/JMS)
- PP5B: BA Journalism & Media Studies (4yr with Incorp Foundation) year 1 (BA/JMS1)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- WPQ0: BA Creative Studies year 1 (BA/CST)
- WPQB: BA Creative Studies (4 year with Incorporated Foundation) year 1 (BA/CST1)
- QWM5: BA Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau year 1 (BA/CTC)
- Q3P3: BA English Lang with Media Stds year 1 (BA/ELMS)
- W620: BA Film Studies year 1 (BA/FLM)
- W62B: BA Film Studies (4 year with Incorporated Foundation) year 1 (BA/FLM1)
- R1P3: BA French with Media Studies year 1 (BA/FRMS)
- 2W89: BA Film Studies (with International Experience) year 1 (BA/FSIE)
- P306: BA Media Studies year 1 (BA/MS)
- P31B: BA Media Studies (4 year with Incorporated Foundation) year 1 (BA/MS1)
- P3R1: BA Media Studies with French year 1 (BA/MSFR)
- P3R2: BA Media Studies with German year 1 (BA/MSG)
- 8U76: BA Media Studies (with International Experience) year 1 (BA/MSIE)
- P3R3: BA Media Studies with Italian year 1 (BA/MSIT)
- P3R4: BA Media Studies with Spanish year 1 (BA/MSSP)
- P3R5: BA Media Stud with Spanish (with International Experience) year 1 (BA/MSSPIE)
- W6W8: BA Professional Writing & Film year 1 (BA/PWF)
- W839: BA Professional Writing with Game Design year 1 (BA/PWGD)
- R4P3: BA Spanish with Media Studies year 1 (BA/SPMS)
- M1W1: LLB Law with Creative Media Writing year 1 (LLB/LCMW)
- M1W2: LLB Law with Creative Media Writing (International Exp) year 1 (LLB/LCMWI)