Camymddwyn Rhywiol, Trais ac Aflonyddu
Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i greu amgylchedd diogel, cynhwysol a pharchus lle mae pob myfyriwr, aelod o staff ac ymwelydd yn cael eu trin ag urddas a pharch. Nid ydym yn goddef camymddygiad rhywiol, trais, aflonyddu, digwyddiadau casineb, camdriniaeth, stelcio, ymddygiad gorfodol neu reolaethol, nac unrhyw fath arall o ymddygiad amhriodol o fewn cymuned y Brifysgol.
Os ydych wedi profi, wedi gweld, neu wedi cael eich effeithio gan unrhyw un o'r ymddygiadau hyn, mae cymorth ar gael.
Angen Cymorth neu Eisiau Siarad â Rhywun?
Nid oes angen i chi wneud adroddiad ffurfiol er mwyn cael cymorth. Gallwch siarad â:
-
Aelod o'r Tîm Ymateb i Ddatgeliadau (DRT)
-
Cynghorydd Llwyddiant Myfyrwyr
-
Tiwtor Personol, Uwch Diwtor neu aelod arall o staff yr ydych yn ymddiried ynddo
-
Undeb Bangor (Yr Undeb Myfyrwyr)
Os nad ydych yn siŵr gyda phwy i gysylltu, gallwch hefyd ddefnyddio Desg Gymorth Achosion Myfyrwyr (drwy anfon e-bost at studentcases@bangor.ac.uk), a bydd eich ymholiad yn cael ei gyfeirio at aelod priodol o'r Tîm Ymateb i Ddatgeliadau.
Beth yw Datgeliad?
Datgeliad yw pan fyddwch yn dweud wrth y Brifysgol am brofiad o gamymddygiad rhywiol, trais, aflonyddu, camdriniaeth, stelcio, cam-drin domestig, ymddygiad sy'n ymwneud â chasineb neu ymddygiad amhriodol arall.
Nid yw gwneud datgeliad yn golygu'n awtomatig eich bod yn gwneud adroddiad ffurfiol nac yn gofyn i'r Brifysgol ymchwilio.
Mae llawer o bobl yn dewis gwneud datgeliad oherwydd eu bod eisiau:
-
cymorth;
-
gwybodaeth;
-
cyngor;
-
addasiadau i'w hastudiaethau;
-
deall pa opsiynau sydd ar gael iddynt.
Gallwch benderfynu faint o wybodaeth yr hoffech ei rhannu ac a hoffech gymryd unrhyw gamau pellach.
Sut Alla i Wneud Datgeliad?
Gallwch wneud datgeliad yn y ffordd sy'n teimlo fwyaf cyfforddus i chi. Gallwch ddewis:
-
siarad yn uniongyrchol ag aelod o'r Tîm Ymateb i Ddatgeliadau (DRT);
-
siarad ag aelod o'r Gwasanaeth Llesiant a Chynhwysiant;
-
siarad â Chynghorydd Llwyddiant Myfyrwyr;
-
siarad â Thiwtor Personol, Uwch Diwtor neu aelod arall o staff yr ydych yn ymddiried ynddo; neu
-
cysylltu â Desg Gymorth Achosion Myfyrwyr a gofyn am gymorth gan aelod o'r DRT.
Nid oes angen i chi wneud adroddiad ffurfiol er mwyn gwneud datgeliad neu gael cymorth.
Beth Sy'n Digwydd Pan Fyddaf yn Gwneud Datgeliad?
Os byddwch yn dewis gwneud datgeliad i aelod o'r Tîm Ymateb i Ddatgeliadau (DRT), aelod o'r Gwasanaeth Llesiant a Chynhwysiant, eich Cynghorydd Llwyddiant Myfyrwyr, neu aelod arall o staff y Brifysgol, byddant yn gwrando ar eich pryderon ac yn trafod y cymorth sydd ar gael i chi.
Gallant egluro beth yw datgeliad, ateb unrhyw gwestiynau uniongyrchol sydd gennych, a'ch helpu i ddeall yr opsiynau sydd ar gael i chi. Nid yw gwneud datgeliad yn golygu eich bod yn gwneud adroddiad ffurfiol, ac ni ddisgwylir i chi fel arfer benderfynu ar unwaith pa gamau, os o gwbl, yr hoffech eu cymryd.
Yn dilyn y datgeliad, bydd yr aelod o staff yn rhannu'r wybodaeth gyda'r Tîm Achosion Myfyrwyr. Yna bydd aelod o'r Tîm Achosion Myfyrwyr yn cysylltu â chi i sicrhau eich bod yn ymwybodol o'r opsiynau adrodd sydd ar gael i chi, pe byddech yn dymuno eu harchwilio ymhellach. Gallant hefyd ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am weithdrefnau'r Brifysgol.
Nid yw gwneud datgeliad yn eich gorfodi i wneud adroddiad ffurfiol na chymryd unrhyw gamau pellach.
Y Tîm Ymateb i Ddatgeliadau
Mae'r Tîm Ymateb i Ddatgeliadau (DRT) yn rhwydwaith o aelodau staff sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig o bob rhan o'r Brifysgol ac sy'n gallu derbyn datgeliadau gan fyfyrwyr sydd wedi profi camymddygiad rhywiol, trais, aflonyddu neu ddigwyddiadau casineb.
Gall aelod o'r DRT:
-
wrando heb farnu;
-
egluro'r cymorth sydd ar gael;
-
trafod opsiynau adrodd;
-
eich helpu i ddeall gweithdrefnau'r Brifysgol;
-
eich cyfeirio at wasanaethau arbenigol; a
-
eich helpu i gael mynediad at gymorth o fewn y Brifysgol.
Gallwch gysylltu ag aelod o'r DRT yn uniongyrchol neu ofyn i gael eich cysylltu ag un drwy Ddesg Gymorth Achosion Myfyrwyr.
Dysgwch fwy am y Tîm Ymateb i Ddatgeliadau.
Adrodd am Ymddygiad
Dim ond adroddiadau sy'n ymwneud ag ymddygiad aelodau presennol o gymuned y Brifysgol y gall y Brifysgol eu hystyried. Fodd bynnag, mae cymorth ar gael gan y Gwasanaeth Llesiant a Chynhwysiant ni waeth pwy oedd yn gyfrifol am yr ymddygiad.
Pan nad yw'r unigolyn sy'n destun yr adroddiad yn aelod o gymuned y Brifysgol, ni all y Brifysgol ymchwilio na chymryd camau disgyblu. Yn yr amgylchiadau hyn, gall aelod o'r DRT ddarparu cymorth o hyd a thrafod opsiynau adrodd eraill a allai fod ar gael.
Beth y Gellir Ei Adrodd?
Gall y Brifysgol ystyried pryderon sy'n ymwneud ag ymddygiad megis:
-
camymddygiad rhywiol;
-
trais rhywiol;
-
aflonyddu rhywiol;
-
stelcio;
-
cam-drin domestig;
-
ymddygiad gorfodol neu reolaethol;
-
aflonyddu;
-
digwyddiadau casineb; a
-
ymddygiad arall a allai dorri polisïau'r Brifysgol.
Nid yw Pob Anghytundeb yn Aflonyddu
Mae'r Brifysgol yn cydnabod y gall anghytundebau, gwrthdaro rhyngbersonol ac anawsterau mewn perthnasoedd ddigwydd weithiau rhwng myfyrwyr. Nid yw pob anghydfod neu berthynas sydd wedi chwalu yn bodloni'r diffiniad o aflonyddu neu gamymddygiad o dan weithdrefnau'r Brifysgol.
Gall enghreifftiau gynnwys:
-
chwalu cyfeillgarwch;
-
anghytundebau rhwng cyd-breswylwyr;
-
dadleuon untro;
-
anawsterau mewn perthynas lle nad oes honiad o gamymddygiad;
-
anghydfodau lle mae gan unigolion gyfrifon gwahanol o'r digwyddiadau.
Lle bo'n briodol, gall myfyrwyr gael eu cyfeirio at ganllawiau amgen, gwasanaethau cymorth, cymorth llety neu adnoddau rheoli gwrthdaro.
Os nad ydych yn siŵr a yw eich profiad yn dod o fewn cwmpas y broses hon, rydym yn eich annog i siarad ag aelod o'r DRT a all drafod eich sefyllfa a'r opsiynau sydd ar gael i chi.
Argyfyngau
Os ydych mewn perygl uniongyrchol neu angen cymorth brys, cysylltwch â'r gwasanaethau brys drwy ffonio 999.
Os gall digwyddiad fod yn drosedd, efallai y byddwch hefyd yn dymuno cysylltu â'r Heddlu. Gall aelod o'r DRT eich helpu i ddeall y cymorth a'r opsiynau adrodd sydd ar gael i chi. Pan nad yw'n argyfwng, gellir cysylltu â'r Heddlu drwy ffonio 101.