Amser meddwl am brofiad gwaith!
Ddim yn siŵr lle i ddechrau? Angen cefnogaeth?
Os ydych yn 24 oed neu'n iau, mae’n bosib mai ein project newydd yw'r ateb!
Nod GO Wales: Cyflawni trwy Brofiad Gwaith yw helpu myfyrwyr a fyddai'n cael budd o amserlen fwy hyblyg neu amgylchedd gwaith cefnogol i oresgyn rhwystrau y gallent eu hwynebu wrth geisio sicrhau profiad gwaith perthnasol i'w gyrfa.
Mae cynghorwyr GO Wales, yn y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, yn gallu gweithio gyda chi a chyflogwyr lleol i drefnu profiad gwaith wedi'i deilwra at eich anghenion a chynyddu eich siawns o gael swydd addas i raddedigion ar ôl gadael y brifysgol.
Mae GO Wales: Cyflawni trwy Brofiad Gwaith yn rhaglen wedi'i chyllido gan y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd ac yn cael ei gweithredu gan brifysgolion yng Nghymru
I weld a allech fod yn gymwys, ewch i:
https://my.bangor.ac.uk/careers/students/go-wales.php.cy
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2017