ARHOLIADAU – GWYBODAETH BWYSIG
A oes gennych hawl i amser ychwanegol mewn arholiadau?
A oes gennych hawl i ddefnyddio CYFRIFIADUR, DARLLENWR neu drefniadau unigol eraill (fel y disgrifir yn eich Cynllun Cefnogi Dysgu Personol)?
Os felly, bydd angen i chi neilltuo’r trefniadau hyn erbyn dydd Gwener, 11 Rhagfyr; am fwy o wybodaeth, gwelwch addasiadau i arholiadau yn yr arholiadau ar ddiwedd Semester 1. http://www.bangor.ac.uk/studentservices/disability/exams.php.cy
Nodwch: byddwn yn cadw at y dyddiad cau hwn ac os byddwch yn methu cofnodi eich trefniadau arholiadau mewn pryd, mae'n annhebygol y byddwn yn gallu addasu oni bai bod amgylchiadau arbennig iawn.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Rhagfyr 2015