Cyngor ar Ebola
Oes yna unrhyw berygl y bydd y firws Ebola'n cael ei ledaenu yn y brifysgol?
Mae'r perygl y bydd Ebola'n cael ei ledaenu oherwydd myfyrwyr, neu staff, sy'n cyrraedd o wledydd lle mae'r afiechyd ar led yn eithriadol o fach.
Nid yw'n bosib cael eich heintio gan staff a myfyrwyr sydd wedi teithio o wledydd lle mae Ebola ar led, ( (Liberia, Sierra Leone, Guinea) ac sydd heb symptomau, ac felly ni fydd unrhyw gyfyngiadau ar eu haddysg na’u gweithgareddau arferol.
Cofiwch fod Prifysgol Bangor yn cymryd lles ei holl fyfyrwyr o ddifrif calon a bydd yn parhau i fonitro'r sefyllfa er bod y risg yn isel iawn.
Oes unrhyw beth gallaf ei wneud i'm diogelu fy hun a phobl eraill?
Fel gyda phob salwch heintus, y cam cyntaf i'ch diogelu eich hun yw golchi eich dwylo'n drylwyr gyda dŵr cynnes a sebon. Dilynwch reolau glanweithdra cyffredinol. Golchwch eich dwylo cyn i chi fwyta ac ar ôl i chi fynd i'r toiled, golchwch unrhyw fwyd amrwd yr ydych yn ei fwyta, os ydych yn pesychu neu'n tisian defnyddiwch hances bapur a'i thaflu'n syth wedyn - ac yna golchwch eich dwylo. Cryfhewch eich system imiwn trwy fwyta'n iach, a mynnwch ddigon o gwsg - rydych yn fwy tebygol o fynd yn sâl os ydych yn flinedig ac yn ddiegni.
Ceir y wybodaeth fwyaf diweddar am Ebola, gan gynnwys cyngor ar deithio a chyngor i brifysgolion ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru:
http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/page/74608
Dyddiad cyhoeddi: 16 Hydref 2014