Dathliad Cyflogadwyedd
Cynhaliwyd Dathliad Cyflogadwyedd yn Pontio ar nos Iau, Ebrill 26ain i longyfarch ac arddangos llwyddiannau myfyrwyr Prifysgol Bangor sydd wedi cymryd rhan yng Ngwobr Cyflogadwyedd Bangor ac wedi arddangos ymrwymiad rhagorol i ddatblygu eu cyflogadwyedd drwy weithgareddau allgyrsiol.
Clywyd cyflwyniadau gan fyfyrwyr am eu profiadau o ddatblygu eu cyflogadwyedd yn y Brifysgol, a sut maent wedi elwa o gymryd rhan mewn profiad gwaith a gweithgareddau allgyrsiol. Roedd y myfyrwyr ddaru gyflwyno yn cynnwys Jennifer Light-Hook (Addysg), Liam John Evans (Cymraeg a Hanes), Tara Moran (Seicoleg), Olaitan Olawande (Seicoleg), Shammi Rahman (Peirianneg Electronig), Ryan Eddowes (Gwyddorau Biolegol), a Jemima Letts (Coedwigaeth).
Dywedodd Chris Little, Pennaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd, “Mae’n ddigwyddiad gwych sy’n ein galluogi i longyfarch myfyrwyr am eu gwaith caled yn datblygu eu cyflogadwyedd. Mae’r amrywiaeth o weithgareddau mae’r myfyrwyr yn cymryd rhan ynddynt yn dangos pa mor eang ydi’r cyfleoedd sydd yma ym Mangor i fyfyrwyr ddatblygu eu hunain a darparu ar gyfer cyflogaeth”.
Roedd y noson hefyd yn gyfle i wobrwyo Gwobrau Rhagoriaeth Cyflogadwyedd i fyfyrwyr oedd wedi eu henwebu gan ysgolion academaidd, Undeb Bangor, neu oruchwylwyr interniaethau.
Cyflwynwyd y wobr i gyflogwyr i Venue Cymru am eu hymroddiad i gynnig interniaethau, cyfleoedd gwirfoddoli, swyddi a cyfleoedd ymchwil i fyfyrwyr y Brifysgol. Roedd Sarah Ecob, Rheolwr Cyffredinol Venue Cymru yn y digwyddiad i dderbyn y wobr.
Rhestr llawn o enillwyr:
Enillwyr Gwobrau Coleg:
Celfyddydau a’r Dyniaethau – Christina Jefferson, Cerdd
Busnes, y Gyfraith, Addysg a Gwyddorau Cymdeithas – Freya Whelan, y Gyfraith
Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad - Alexandra Theis, Seicoleg
Gwyddorau Naturiol – Amanda Davidson, Daearyddiaeth
Gwyddorau Ffisegol a Chymhwysol – Shammi Rahman, Peirianneg Electronig
Gwobr Cynllun Interniaeth Israddedig – Fern Wilson, Cerdd
Gwobr GCB Meistr – Saskia Mori, Gwyddorau Eigion
Gwobr Menter ac Arloesi – Jennifer Light-Hook, Addysg
Gwobr Undeb Bangor – Aled Davies, Gwyddorau Meddygol
Gwobr Cyflogwyr – Venue Cymru
Mae lluniau o’r noson ar gael ar dudalen Facebook y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd.
Dyddiad cyhoeddi: 8 Mai 2018