Ffair Tai a Fforwm Tenantiaid
Wnaethoch chi gymryd pwyll cyn llofnodi? Ydych chi'n dal i chwilio am y tŷ sy'n iawn i chi? Rhagorol! Ar ddydd Llun 9 Mawrth, byddwn yn rhoi cyfle arall i chi ddod o hyd i dŷ drwy'r Swyddfa Tai Myfyrwyr. Byddaf i a Mair a Jen o'r Swyddfa Tai yng nghyntedd Prif Adeilad y Celfyddydau (nesaf i'r Pod Coffi/ y dderbynfa) o 10 tan 12, gyda gliniaduron i ateb unrhyw gwestiynau fydd gennych chi ynglŷn â dod o hyd i dŷ ym Mangor. Gan fod yna ddigonedd o dai ym Mangor, nid ydych wedi ei gadael yn rhy hwyr! Felly dewch draw am sgwrs a dod o hyd i'ch llety delfrydol i fyfyrwyr at flwyddyn nesaf.
Unrhyw gwestiynau? Mae croeso i chi gysylltu â mi ar Lydia.richardson@bangorstudents.com
Ar 10 Mawrth, byddwn yn cynnal ein hail Fforwm Tenantiaid a fydd yn canolbwyntio ar holi ymgeiswyr yr Etholiad Cyffredinol a thrafod sut i wella tai myfyrwyr gan ystyried beth sy'n fforddiadwy/safonau a ffioedd gosod. Mae’n bwysig i chi gael dweud eich barn am y mater felly mae croeso i bob myfyriwr. Dewch draw a chymryd rhan!
Am fwy o wybodaeth am yr Etholiad Cyffredinol ewch i'n gwefan – http://www.myfyrwyrbangor.com/elections/ge2015.php.cy
Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am unrhyw beth arall, cysylltwch ag â mi ar Lydia.richardson@bangorstudents.com
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mawrth 2015