Help gyda mathemateg ac ystadegau
Mae'r Ganolfan Sgiliau Astudio yn cynnig gwasanaeth cynghori mathemateg ac ystadegau sy'n rhoi cyfle i chi drafod unrhyw gwestiynau ynglŷn â mathemateg ac ystadegau a all fod gennych. Gallwch gael cefnogaeth trwy ymarferion, taflenni tiwtorial a hen bapurau arholiad a chyngor ar ddefnyddio pecynnau ystadegol (Excel ac SPSS).
Rydym yn cynnig apwyntiadau unigol 20 neu 40 munud dros MS Teams, ar yr adegau canlynol:
Prynhawn Mawrth 13:30 – 16:30
Dydd Mercher 10:30 – 13:30
Prynhawn Iau 13:30 – 16:30
I wneud apwyntiad, llenwch ein ffurflen archebu yma: https://www.bangor.ac.uk/studyskills/maths_stats.php.en
Dyddiad cyhoeddi: 12 Hydref 2020