Wythnos Cyflogadwyedd: Neges Dydd Gwener
Cyfle i gyfarfod a rhwydweithio gyda cyflogwyr graddedig
Yn y Flwyddyn olaf/ dilyn cwrs Meistr? Chwilio am swydd neu leoliad? Eisiau cyfle i rwydweithio gyda busnesau? Mae’r Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd ym Mhrifysgol Bangor yn trefnu bws i’r Ffair Recriwtio Graddedigion Manceinion.
Cyfle i gyfarfod oddeutu 130 o gyflogwyr amlwg a’i holi am swyddi i raddedigion a lleoliadau. Rhagor o fanylion yma – yn cynnwys sut i gofrestru am eich tocyn mynediad am ddim: http://www.careers.manchester.ac.uk/events/gradfair/
Mae'r ffair yn rhedeg rhwng 10.30am - 3.30pm. Bydd y bws yn gadael Bangor am 9am ac yn cyrraedd yn ôl am 5pm
Archebwch eich tocyn i'r bws am £10 y pen yma
Diddordeb mewn datblygu sgiliau menter a busnes?
Os oes diddordeb gennych mewn datblygu sgiliau menter neu eisiau cychwyn busnes eich hunain yna dewch i siarad efo’r tîm B-Fentrus. Gallwch elwa o weithdai am ddim, mentora busnes un i un, cyfleoedd cyllid a prototeipio yn ogystal a man deori am ddim yn M-SParc. Gallwch hefyd gael cymorth i gyfranogi mewn cystadlaethau menter lle gallwch ennill gwobrau rhyfeddol a rhwydweithio efo pobol all gynnig cymorth ac anogaeth.
Cysylltwch efo ni trwy e-bost i b-fentrus@bangor.ac.uk a gweler ein tudalen Facebook @B-Fentrus Bangor.
Beth am fod yn Arweinydd Cyfoed ym mis Medi?
Mae’r Brifysgol yn recriwtio Arweinwyr Cyfoed at fis Medi 2019 yn awr. Rydym yn gobeithio eich bod wedi elwa o gael Arweinydd Cyfoed i'ch helpu i ymgartrefu yn y brifysgol a hoffem eich gwahodd i wneud cais i fod yn Arweinydd Cyfoed eich hun.
Gwirfoddolwyr yw Arweinwyr Cyfoed sy’n cefnogi myfyrwyr newydd wrth iddynt gyrraedd y brifysgol ac yn ystod yr Wythnos Groeso, a'r tu hwnt i'r cyfnod hwnnw mewn rhai achosion. Fe'i cefnogir gan Uwch Arweinwyr Cyfoed (pob un ohonynt wedi gwirfoddoli eu hunain yn y gorffennol), a gan staff ym mhob ysgol academaidd a thîm canolog. Mae arweinwyr cyfoed yn gymwys i ennill pwyntiau Gwobr Cyflogadwyedd Bangor.
Er mwyn bod yn Arweinydd Cyfoed, bydd rhaid i chi wneud y canlynol:
- Cyflwyno cais trwy'r wefan Arweinwyr Cyfoed
- Cymryd rhan mewn sesiwn hyfforddi arbennig yn ystod semester dau
Cysylltwch â peerguiding@bangor.ac.uk am ragor o wybodaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2019