Wythnos Cyflogadwyedd: Neges Dydd Mercher
Myfyrwyr blwyddyn olaf: gwiriwch eich HEAR a GCB!
Gwiriwch eich tudalen Fy HEAR cyn Mai 15fed!
Pan fyddwch yn graddio, byddwch yn derbyn adroddiad HEAR gan y Brifysgol sy’n amlinellu eich llwyddiannau, rhai academaidd ac all-gyrsiol. Gallwch wirio pa weithgareddau all-gyrsiol sy’n ymddangos ar eich HEAR personol gan fewngofnodi i’r dudalen Fy HEAR ar yr Hwb Cyflogadwyedd, Fy Bangor.
- Bydd rhaid i’ch gweithgareddau gael eu cofnodi ar Fy Hwb Cyflogadwyedd erbyn 5yp, Mai 15fed, 2019
- I newid neu ddileu gwybodaeth o’ch HEAR, gyrrwch e-bost i cyflogadwyedd@bangor.ac.uk cyn 5yp, Mai 15fed, 2019
Myfyrwyr cymwys ar gyfer HEAR: holl israddedigion.
Cwblhau Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)
Os ydych yn bwriadu cwblhau’r GCB eleni, gadewch i ni wybod gan gwblhau’r ffurflen ar lein ganlynol cyn gynted a phosib: https://www.bangor.ac.uk/careers/finalists/index.php.cy (bydd angen mewngofnodi)
Y dyddiad i gwblhau’r GCB ydi 5yp, Mai 15fed, 2019.
Myfyrwyr cymwys ar gyfer GCB: holl israddedigion.
Help a Chymorth
Mae help a chymorth yn defnyddio’r Hwb Cyflogadwyedd a cofnodi gweithgareddau ar gyfer yr HEAR a GCB ar gael yn ystod sesiynau cyflogadwyedd yn eich amserlen, mewn sesiynau gwybodaeth (manylion ar dudalen digwyddiadau’r Hwb), a drwy e-bostio cyflogadwyedd@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mawrth 2019