Ydych chi'n meddwl bod gennych ddyslecsia, neu ryw fath arall o wahaniaeth dysgu penodol (SpLD)?
Rydym yn rhoi asesiadau sgrinio cychwynnol i fyfyrwyr sy'n meddwl bod eu hanawsterau'n gysylltiedig ag anhawster dysgu fel dyslecsia/dyspracsia ayyb.
Mae asesiad sgrinio’n anffurfiol iawn. Mae am ddim i fyfyrwyr Bangor ac fel rheol mae’n para tua awr a hanner. Rydym yn gofyn i chi am eich cefndir a’ch profiadau o ddysgu yn y presennol a’r gorffennol.
https://www.bangor.ac.uk/studentservices/disability/assessment_centre.php.cy
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2020