Modiwl SCL-2139:
Cyfraith Datganoli
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Law
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1 a 2
Trefnydd: Ms Sarah Thomas Morgan
Amcanion cyffredinol
Modiwl opsiynol yn y rhaglen LLB yw Cyfraith Datganoli. Nod y modiwl yw galluogi myfyrwyr i ddysgu a dangos gwybodaeth a dealltwriaeth gywir o ddatblygiad y gyfraith yng Nghymru ar ôl datganoli, ynghyd â throsolwg ar hanes datganoli yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o Ewrop. Bydd yn galluogi myfyrwyr i asesu’r datblygiad a’r hanes hwnnw yn feirniadol a chymharu a gwrthgyferbynnu'r datblygiad a’r hanes hwnnw yn gywir ac yn berthnasol gyda systemau cyfreithiol eraill y mae’r myfyriwr yn gyfarwydd â hwy.
Cynnwys cwrs
Mae’r cwrs yn edrych ar gyfraith datganoli yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o Ewrop. Caiff datblygiad hanesyddol datganoli yng Nghymru ei astudio; yn cynnwys effaith Statud Rhuddlan 1284, Deddfau Uno’r unfed ganrif ar bymtheg a’r broses raddol o ddatganoli grym i adrannau a swyddfeydd yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif. Ceir hefyd astudiaeth fanwl o Ddeddfau Llywodraeth Cymru a Mesur y Gymraeg (Cymru), ynghyd â’r modd y mae darpariaethau’r statudau hynny’n cael eu gweithredu yng Nghymru ar ôl y datganoli, a barn ysgolheigaidd yn ymwneud â hynny. O ganlyniad, rhoddir ystyriaeth i ddatblygiad cyfansoddiad Cymru ac ymddangosiad awdurdodaeth Cymru. Caiff datblygiadau cyfreithiol a ysgogwyd gan ddatganoli hefyd eu hystyried yng nghyd-destun y DU; gweinyddu cyfiawnder, yn benodol cyfraith weinyddol; a datblygiad cysylltiadau rhynglywodraethol yn y DU ac yn Ewrop. Drwy gydol y cwrs, bydd y datblygiadau cyfreithiol yn ymwneud â newidiadau gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a deallusol yng Nghymru, y Deyrnas Unedig, Ewrop a’r byd ehangach. Rhoddir sylw arbennig i’r setliad datganoli yn yr Alban, Gogledd Iwerddon, Cymunedau Ymreolaethol Sbaen; a Länder yr Almaen.
Meini Prawf
trothwy
D Ateb sy'n gywir gan fwyaf o ran cyflwyno deunydd, ond sy’n cynnwys lefel sylweddol o wallau, ac felly nid yw’n hollol ddibynadwy
da
A Ateb rhagorol, sy’n dangos meistrolaeth dros y pwnc dan sylw heb fawr ddim lle o gwbl i wella. Mae’r ateb yn cynnwys yr holl bwyntiau a dadleuon perthnasol, ynghyd â gwerthusiad llawn annibynnol ac aeddfed o’r testun, heb fawr ddim camgymeriadau neu gynnwys amherthnasol. Lle bo’n berthnasol, bydd yr ateb hefyd yn dangos tystiolaeth o werthusiad cymharol manwl o’r materion dan sylw. Bydd yr holl ddeunydd a chyfeiriadau (lle bo’n berthnasol) wedi’u cyflwyno bron yn berffaith yn yr ateb, a bydd yr ateb wedi’i lunio’n hynod dda ac yn rhagorol yn ramadegol yn Gymraeg/Saesneg.
A-
Ateb rhagorol, sy’n dangos meistrolaeth dros y pwnc dan sylw heb fawr o le i wella. Mae’r ateb yn cynnwys yr holl bwyntiau a dadleuon perthnasol, ynghyd â gwerthusiad llawn annibynnol ac aeddfed o’r testun, heb unrhyw gamgymeriadau neu gynnwys amherthnasol, neu ddim ond ychydig iawn. Lle bo’n berthnasol, bydd yr ateb hefyd yn dangos tystiolaeth o beth gwerthusiad cymharol o’r materion dan sylw. Bydd yr holl ddeunydd a chyfeiriadau (lle bo’n berthnasol) wedi’u cyflwyno’n dda iawn yn yr ateb, a bydd yr ateb wedi’i lunio’n dda iawn ac yn rhagorol yn ramadegol yn Gymraeg/Saesneg.
B Ateb cynhwysfawr, yn cynnwys yr holl neu bron y cyfan o’r deunydd sy’n berthnasol i’r cwestiwn a dim amherthnasedd, neu ychydig iawn; yr holl ddeunydd a’r cyfeiriadau yn gywir at ei gilydd, heb ddim anghywirdeb na gwallau, gan gyflwyno’r cyfan mewn dadl glir, resymegol a beirniadol, ond sydd â lle i wella ei adeiladwaith a’i gyflwyniad. Ateb sy’n dangos hyfedredd llwyr yn y pwnc.
C Ateb sydd, er ei fod bob amser yn gywir gan fwyaf, serch hynny yn methu â gwahaniaethu rhwng deunydd perthnasol ac amherthnasol, ac sydd â diffyg beirniadaeth. Ateb sy’n ddibynadwy o ran cywirdeb, ond nad yw’n gynhwysfawr neu nad yw’n hollol berthnasol.
ardderchog
A* Ateb gwirioneddol arbennig, sy’n dangos meistrolaeth lwyr dros y pwnc dan sylw ac sydd hefyd yn gyfraniad gwreiddiol sylweddol o safon uchel sy’n hyrwyddo dealltwriaeth o’r pwnc. Mae’r ateb yn cynnwys yr holl bwyntiau a dadleuon perthnasol, ynghyd â gwerthusiad llawn annibynnol ac aeddfed o’r testun, heb unrhyw gamgymeriadau neu gynnwys amherthnasol. Lle bo’n berthnasol, bydd yr ateb hefyd yn dangos tystiolaeth o werthusiad cymharol rhagorol o’r materion dan sylw. Bydd yr holl ddeunydd a chyfeiriadau (lle bo’n berthnasol) wedi’u cyflwyno’n berffaith yn yr ateb a bydd yr ateb wedi’i lunio’n berffaith ac yn berffaith yn ramadegol yn Gymraeg/Saesneg. Yn achos traethawd hir neu aseiniad, bydd yr ateb yn addas i’w gyhoeddi mewn cyfnodolyn a adolygir gan gydweithwyr. A+ Ateb neilltuol, sy’n dangos meistrolaeth lwyr dros y pwnc dan sylw heb unrhyw le o gwbl i wella. Mae’r ateb yn cynnwys yr holl bwyntiau a dadleuon perthnasol, ynghyd â gwerthusiad llawn annibynnol ac aeddfed o’r testun, heb unrhyw gamgymeriadau neu gynnwys amherthnasol. Lle bo’n berthnasol, bydd yr ateb hefyd yn dangos tystiolaeth o werthusiad cymharol rhagorol o’r materion dan sylw. Bydd yr holl ddeunydd a chyfeiriadau (lle bo’n berthnasol) wedi’u cyflwyno’n berffaith yn yr ateb a bydd yr ateb wedi’i lunio’n berffaith ac yn berffaith yn ramadegol yn Gymraeg/Saesneg.
Canlyniad dysgu
-
Disgrifio’n gywir, dadansoddi a sylwebu ar ddatblygiad sefydliadau a meysydd y gyfraith yng Nghymru ar ôl datganoli trwy gyfeirio at ffynonellau gwreiddiol a ffynonellau eilaidd priodol, gan berthnasu’r datblygiad i’w achosion a’i effeithiau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a deallusol.
-
Disgrifio’n gywir, dadansoddi, cymharu a sylwebu ar ddatblygiad sefydliadau a meysydd y gyfraith yng nghenhedloedd a rhanbarthau datganoledig y DU ac Ewrop, gan eu perthnasu i’w hachosion a’u heffeithiau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a deallusol.
-
Canfod, nodi a defnyddio ffynhonellau disgrifiadau cyfreithiol perthnasol yng nghyswllt cyfraith datganoli yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o Ewrop.
-
Bod yn ymwybodol o’r cyd-destun ehangach mewn yng nghyswllt gweithredu cyfraith datganoli yng Nghymru, e.e. y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru â'r llywodraeth ganolog yn Whitehall.
-
Cyflwyno dadl gyfreithiol resymegol yng nghyswllt cyfraith datganoli.
-
Trosglwyddo’r wybodaeth yn 3 a 4 yn effeithiol, ar lafar mewn seminarau ac yn ysgrifenedig mewn asesiadau ffurfiannol a chrynodol.
-
Gwneud ymchwil cyfreithiol annibynnol yng nghyswllt cyfraith datganoli yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o Ewrop.
-
Dadansoddi a defnyddio’r wybodaeth a gafwyd yn 6.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
TRAETHAWD | Traethawd | 40.00 | |
ARHOLIAD | Arholiad | 60.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Seminar | 40 awr drwy seminarau ar lein |
40 |
Private study | Bydd disgwyl i fyfyrwyr baratoi'n annibynnol ar gyfer rhai seminarau ac wrth baratoi'r aseiniadau. |
160 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Sgiliau pwnc penodol
- Develop the ability to interpret legal rules and employ techniques of legal reasoning competently and efficiently in order to offer a range of solutions and conclusions to actual or hypothetical complex legal problems, all supported by relevant academic literature, jurisprudence and legislative research. Such solutions will be clearly communicated and presented
- Develop the ability to analyse complex legal issues, set against the background of the political, social, economic or cultural contexts in which they may arise
- Develop those skills which are necessary for scholarship and research in legal subjects, namely the ability to identify relevant primary and secondary legal sources and to retrieve accurate legal information using paper and electronic sources
Rhagofynion a Chydofynion
Rhagofynion
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- NM11: BA Business and Law year 2 (BA/BUSALAW)
- NM1B: BA Business and Law (4 year with Incorporated Foundation) year 2 (BA/BUSLAW1)
- M100: LLB Law year 2 (LLB/L)
- M11B: LLB Law (4 year with Incorporated Foundation) year 2 (LLB/L1)