Modiwl CXC-2002:
Dafydd ap Gwilym
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Welsh and Celtic Studies
20 Credyd neu 10 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Prof Jason Davies
Amcanion cyffredinol
Yn y modiwl hwn astudir detholiad cynrychioliadol o gerddi Dafydd ap Gwilym. Bydd y cwrs yn dechrau gyda darlithoedd a fydd (a) yn croniclo'r hyn sy'n hysbys am fywyd Dafydd, a (b) yn dangos fel y trosglwyddwyd ac y golygwyd y farddoniaeth sy'n dwyn ei enw. Eir ati wedyn i ddarllen tua phymtheg o'i gerddi, a bydd hynny'n gosod sylfaen ar gyfer trafodaethau ar faterion megis ei berthynas â'r traddodiad barddol brodorol a'r glêr ‘isradd', ei berthynas â chanu cyfandirol, ynghyd â thrafodaethau a fydd yn ymwneud â themâu amlycaf ei ganu.
Cynnwys cwrs
Yn y modiwl hwn astudir detholiad cynrychioliadol o gerddi Dafydd ap Gwilym. Bydd y cwrs yn dechrau gyda darlithoedd a fydd (a) yn croniclo'r hyn sy'n hysbys am fywyd Dafydd, a (b) yn dangos fel y trosglwyddwyd ac y golygwyd y farddoniaeth sy'n dwyn ei enw. Eir ati wedyn i ddarllen tua phymtheg o'i gerddi, a bydd hynny'n gosod sylfaen ar gyfer trafodaethau ar faterion megis ei berthynas â'r traddodiad barddol brodorol a'r glêr ‘isradd', ei berthynas â chanu cyfandirol, ynghyd â thrafodaethau a fydd yn ymwneud â themâu amlycaf ei ganu.
Meini Prawf
da
Dangos adnabyddiaeth dda o brif nodweddion barddoniaeth Dafydd ap Gwilym
Dangos dealltwriaeth da o ddetholiad o destunau allan o olygiad Thomas Parry
Dangos adnabyddiaeth dda o brif themâu ei gerddi
Dangos gallu da i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol
Dangos gallu da i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill
Dangos gafael dda ar gystrawen a theithi'r Gymraeg
ardderchog
Dangos adnabyddiaeth gadarn o brif nodweddion barddoniaeth Dafydd ap Gwilym
Dangos dealltwriaeth cadarn o ddetholiad o destunau allan o olygiad Thomas Parry
Dangos adnabyddiaeth gadarn o brif themâu ei gerddi
Dangos gallu cadarn i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol
Dangos gallu cadarn i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill
Dangos gafael gadarn ar gystrawen a theithi'r Gymraeg
trothwy
Dangos adnabyddiaeth o brif nodweddion barddoniaeth Dafydd ap Gwilym Dangos dealltwriaeth o ddetholiad o destunau allan o olygiad Thomas Parry Dangos adnabyddiaeth o brif themâu ei ganu Dangos gallu i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol Dangos gallu i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill Dangos gafael ar gystrawen a theithi'r Gymraeg
Canlyniad dysgu
-
Dangos adnabyddiaeth o brif nodweddion barddoniaeth Dafydd ap Gwilym.
-
Darllen ei gerddi yn ngolygiad safonol y wefan www.dafyddapgwilym.net.
-
Traethu'n olau am rai o brif themâu ei gerddi.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Traethawd 2,800 o eiriau | 50 | ||
Arholiad 1.5 awr | 50 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Private study | Astudio unigol |
170 |
Lecture | 2 awr darlith x 10 |
20 |
Seminar | 1 awr seminar x 10 |
10 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- NQ26: BA Astudiaethau Busnes a Chymraeg year 2 (BA/ABCH)
- QW5H: Cymraeg Creadigol gyda Cherddoriaeth Boblogaidd year 2 (BA/CCYCB)
- T102: BA Chinese and Cymraeg year 2 (BA/CHCY)
- Q5P5: BA Cymraeg gyda Newyddiaduraeth year 2 (BA/CN)
- QWM5: BA Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau year 2 (BA/CTC)
- Q562: BA Cymraeg year 2 (BA/CYM)
- QQ3M: BA English Language & Cymraeg year 2 (BA/ELC)
- QR53: BA Italian/Cymraeg year 2 (BA/ITCY)
- X321: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg year 2 (BA/PIC)
- VVQ5: BA Philosophy and Religion and Welsh year 2 (BA/PRW)
- QR54: BA Spanish/Cymraeg year 2 (BA/SPCY)
- CQ65: BA Cymraeg/Sports Science year 2 (BA/SPSW)
- LQK5: BA Polisi Cymdeithasol a Chymraeg year 2 (BA/SPWW)
- LQH5: BA Cymdeithaseg a Chymraeg year 2 (BA/SWW)
- Q5WK: BA Cymraeg gydag Ysgrifennu Cread year 2 (BA/WCW)
- QR51: BA Cymraeg/French year 2 (BA/WFR)
- QR52: BA Cymraeg/German year 2 (BA/WG)
- QV51: BA Cymraeg/History year 2 (BA/WH)
- QVM2: BA Welsh History/Cymraeg year 2 (BA/WHW)
- QQ15: BA Cymraeg and Linguistics year 2 (BA/WL)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 2 (BA/WMU)
- LQ35: BA Cymraeg and Sociology year 2 (BA/WS)
- M110: LLB Law with Welsh (International Experience) year 2 (LLB/LIH)
- M1Q5: LLB Law with Welsh year 2 (LLB/LW)