Bwrsariaeth Mynediad Ôl-raddedig
Efallai y bydd gan fyfyriwr ôl-raddedig hawl i gymorth ariannol ychwanegol gan Brifysgol Bangor. Bydd Myfyrwyr y DU (ac eithrio myfyrwyr o Gymru) yn gymwys i gael Bwrsariaeth Mynediad Ôl-raddedig os oeddent yn derbyn un o'r canlynol fel myfyriwr israddedig yn ystod blwyddyn academaidd 2019/20, neu os oeddent yn ddi-waith yn union cyn dechrau cwrs ôl-raddedig ym Mhrifysgol Bangor:
- Grant Cynnal a Chadw Prawf Modd
- Benthyciad Cynnal a Chadw Prawf Modd
- Bwrsariaeth Estyniad
- Bwrsariaeth Ymadawyr Gofal
- Lwfans Ceisio Gwaith / Cymorth Incwm / Credyd Cynhwysol
I gael mwy o wybodaeth, ewch i'r wefan ganlynol a chliciwch ar y ddolen Bwrsariaeth Mynediad Ôl-raddedig: https://www.bangor.ac.uk/cy/studentfinance/postgrad/funding
Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2020