Cyllid Myfyrwyr 2015/16
Dyma’r adeg o’r flwyddyn pan ddylai myfyrwyr israddedig fod yn gwneud cais arall am gyllid myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.
Bydd y cyfleusterau Cyllid Myfyrwyr ar gael yn fuan i fyfyrwyr sy'n parhau â'u hastudiaethau allu ailymgeisio am gyllid ychwanegol. Rhaid i'ch cais ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf gael ei gyflwyno cyn y dyddiad cau.
Os hoffech fwy o wybodaeth am gyllid myfyrwyr, pryd i wneud cais a pha gyllid sydd ar gael, cysylltwch â'r Uned Cefnogaeth Ariannol.
Ffôn: 01248 383655 / 383637
E-bost: cymorthariannol@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 6 Mawrth 2015