Diogelu eich tŷ
Cymerwch olwg ar y poster cysylltiedig gan Heddlu Gogledd Cymru!
Hefyd, gwnewch yn siŵr bod y gwres wedi ei osod i ddod ymlaen yn rheolaidd. Cofiwch fod gwres isel cyson yn well na chyfnodau byr o wres uchel, ac wrth gwrs gofalwch fod digon o gredyd yn y mesurydd os oes gennych un. Rhowch wybod i'ch landlord pryd y byddwch yn gadael a beth yr ydych yn bwriadu ei wneud gyda'r system wresogi.
Mwynhewch y gwyliau ac fe'ch gwelwn yn y flwyddyn newydd!
Dyddiad cyhoeddi: 29 Tachwedd 2017