Ionawr Sych 2016
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag Alcohol Concern eto eleni i hybu’r sialens Ionawr Sych i fynd heb ddiferyn o alcohol am fis crwn cyfan. Fel mae’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn brysur agosau, mae dechrau mis Rhagfyr yn amser gwych i feddwl ymlaen a chysidro ymuno â sialens Ionawr Sych. Mae’n sialens sydd yn denu mwy a mwy o ddiddordeb bob flwyddyn!
Ymgyrch ar gyfer pob un ohonom ni sy’n ein gweld ein hunain yn yfwyr cymdeithasol digon normal yw Ionawr Sych. Nid perswadio neb i roi’r gorau i alcohol unwaith ac am byth yw’r amcan. Rhoi munud i ni feddwl yw’r nod; a chyfle, efallai, i newid ein harferion. Siawns ydio i ddeffro gyda phen clir bob bore am fis, arbed ychydig o arian, a cholli tipyn o bwysau. Yn bennaf, mae’n gyfle i ni reoli’r ddiod a gwella iechyd corff a meddwl.
Mae’n hawdd iawn cymryd rhan. Gall unrhyw un ymuno yn Gymraeg (neu Saesneg) trwy www.dryjanuary.org.uk/cymraeg. Gall pobl hefyd ddilyn y sgwrs, annog a chefnogi eu gilydd a rhannu syniadau am bethau i’w gwneud yn lle yfed trwy @IonawrSych (neu @DryJanuary ar gyfer trydar Saesneg) ac ar Facebook.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Rhagfyr 2015