Mesur Effaith yn y Gwasanaethau Myfyrwyr
Mae mesur effaith y gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig yn ganolog i'r ffordd y mae'r Gwasanaethau Myfyrwyr yn gwerthuso ac yn datblygu ein gwasanaethau. Bob blwyddyn, rydym yn dadansoddi data defnydd ac adborth myfyrwyr ac yn adolygu ein mesurau effaith er mwyn i ni fedru cynllunio gwelliannau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Dyma rai enghreifftiau o'r adolygiad y llynedd.
Cyflogadwyedd: Dwedodd 91% o'r myfyrwyr fod y gweithdy gyrfaoedd neu'r apwyntiad unigol wedi cwrdd â'u hanghenion, a dwedodd 89% o'r myfyrwyr iddynt gael y sgiliau a'r wybodaeth i symud ymlaen i'r cam nesaf o gynllunio eu gyrfa. Dwedodd 82% o'r myfyrwyr a fynychodd ddigwyddiadau Byddwch Fentrus eu bod yn teimlo eu bod wedi meithrin y sgiliau i ddechrau busnes.
Sgiliau Astudio: Dwedodd 99% o'r myfyrwyr eu bod yn fodlon â'r cyngor a gawsant ynglŷn â sgiliau astudio, a dwedodd 83% fod eu graddau wedi gwella yn dilyn eu hapwyntiad. Dwedodd 92% o'r myfyrwyr eu bod yn fodlon â'u hapwyntiadau Mathemateg ac Ystadegau, a dwedodd 83% fod eu graddau wedi gwella ers cael cefnogaeth.
Y Gwasanaeth Anabledd: Dwedodd 95% eu bod yn fodlon â'r gwasanaeth a dwedodd 74% i'r gefnogaeth a gawsant eu helpu i gyflawni eu hamcanion dysgu. Cafodd y Gwasanaethau Dyslecsia sgôr o 100% yn yr archwiliad allanol o sicrwydd ansawdd, a chafodd y Ganolfan Asesu sgôr o 93% yn erbyn y Dangosyddion Perfformiad Allweddol yn eu harchwiliad allanol (89% yw'r cyfartaledd cenedlaethol).
Cwnsela: Dwedodd 93% o'r myfyrwyr eu bod yn fodlon neu'n fodlon iawn â'r cwnsela a gawsant, dwedodd 74% fod y cwnsela wedi gwella eu profiad o'r brifysgol, a dwedodd 59% i hynny fod yn ffactor bwysig o ran aros yn y brifysgol. Mae'r gwasanaeth yn defnyddio mesur sector gyfan ar gyfer gwelliant clinigol ac mae Gwasanaeth Cwnsela Bangor yn y 4% uchaf o ran gwelliant clinigol o blith pob gwasanaeth cwnsela mewn prifysgolion sy'n defnyddio'r mesur hwn.
Cymorth Ariannol: Nododd 90% o fyfyrwyr fod y cyllid a gawsant wedi gwneud gwahaniaeth arwyddocaol i'w hansawdd bywyd, a nododd 55% na fyddent wedi parhau â'u hastudiaethau oni bai am y cymorth ariannol hwn. Y llynedd fe wnaeth yr uned Cymorth Ariannol helpu myfyrwyr i gael cyfanswm o £1,323,891 o gyllid ychwanegol gan Cyllid Myfyrwyr neu mewn bwrsariaethau.
Mae gan y Gwasanaethau Myfyrwyr Safon Matrics, sef Safon Ansawdd y DU ar gyfer gwasanaethau gwybodaeth, cyngor ac arweiniad. Yn ystod ein hasesiad y llynedd, cawsom ein canmol yn benodol am ein dull sy'n canolbwyntio ar y myfyrwyr ac am ein hymrwymiad i ymateb yn gadarnhaol i adborth gan fyfyrwyr a phartneriaid. Ar gyfer y flwyddyn i ddod, mae ein cynlluniau yn cynnwys cynnig rhagor o amrywiaeth o gefnogaeth mewn perthynas â lles meddyliol myfyrwyr, a chyflwyno system swyddi gweigion arloesol sy'n cynnig swyddogaethau ar gyfer archebu, gwerthuso ac adrodd ynglŷn â phob agwedd o'r ddarpariaeth cyflogadwyedd.
- Gwasanaethau Myfyrwyr
- Amdanom ni
- Newyddion a digwyddiadau
- Tîm Lles y Myfyrwyr
- Anabledd
- Cwestiynau a Ofynnir yn Aml
- Beth rydym yn ei wneud i fyfyrwyr
- Myfyrwyr Wrexham
- Iechyd Meddwl
- Tîm GDP
- Canolfan Asesu
- Cyfrinachedd
- Cynlluniau Cefnogi Dysgu Personol
- Tiwtoriaid Anabledd yn yr ysgolion academaidd
- Trefniadau arholiadau
- Mynd o amgylch Prifysgol Bangor
- Cymorth Anfeddygol
- Gwybodaeth i Gyrff Cyllido ac Aseswyr Lwfans Myfyrwyr Anabl
- Cyflogadwyedd
- Cymorth Gofal Personol
- Gwelliannau i fyfyrwyr
- Gwybodaeth i Rieni a Chefnogwyr
- Gwybodaeth i staff
- Ffurflenni LMA
- Cyhoeddiadau
- Adnoddau
- Gwahaniaethau Dysgu Penodol (GDP)
- Iechyd meddwl
- Canolfan Access
- Trais Rhywiol, Aflonyddu, Troseddau Casineb a Hiliaeth
- Cyngor ariannol
- Cyllid Israddedigion a TAR
- Cyllid ôl-raddedig
- Cyllid gan yr GIC
- Myfyrwyr Rhyngwladol
- Addysgedau ac ysgoloriaethau
- Myfyrwyr Presennol
- Cronfa Caledi
- Grantiau Argyfwng
- Benthyciadau Diwrnod Talu
- Budd-daliadau
- Cyllido
- Costau Byw
- Dyledion
- Myfyrwyr â Phrofiad Gofal
- Lwfans Myfyrwyr Anabl
- Gamblo
- Tudalennau Perthnasol
- Tai Myfyrwyr
- Myfyrwyr sy'n byw gartref
- Meddwl am adael? Gair o gyngor...
- Myfyrwyr Hŷn
- Myfyrwyr sydd wedi gadael gofal
- Myfyrwyr gyda Theuluoedd
- Iechyd Myfyrwyr
- Arweinwyr Cyfoed
- Cefnogaeth astudio
- Ennyn Diddordeb Myfyrwyr
- Cynghori
- Adnoddau Iechyd Meddwl Ar-lein
- Tîm y Gaplaniaeth a Darpariaeth Ffydd
- Cyhoeddiadau a Thaflenni
- Cymuned Gynhwysol
- Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol
- Cysylltwch â ni