MiFedrai Oresgyn Straen Arholiadau
Mae pawb yn dioddef straen gydag arholiadau - mewn gwirionedd, mae ychydig o straen o gymorth ac yn gwella perfformiad. Ond weithiau, daw lefelau straen yn ormodol, mae’n mynd yn anodd meddwl yn glir, mae problemau iechyd yn cychwyn ac mae perfformiad mewn arholiadau’n dirywio’n ddramatig.
Bydd y gweithdy hwn yn ceisio deall natur ac achosion straen arholiadau ac edrych ar strategaethau ymdopi a ffyrdd o reoli straen er mwyn sicrhau’r perfformiad gorau posibl.
Mae strategaethau lleihau straen yn llawer mwy effeithiol os cânt eu rhoi ar waith cyn i’r arholiadau gychwyn er mwyn i fyfyrwyr deimlo’u bod wedi paratoi’n dda ac yn hyderus.
Dydd Mercher, 13 Ebrill: 2-4yp. YD1, Llawr Gwaelod, Neuadd Rathbone, Ffordd y Coleg.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Mawrth 2016