Ysgrifennu 9-5
Mae Ysgrifennu 9-5 yn ddigwyddiad ysgrifennu wedi'i hwyluso, a gynhelir gan y Ganolfan Sgiliau Astudio. Mae'r digwyddiad yn rhoi cyfle i fyfyrwyr o bob lefel astudio, ac o bob disgyblaeth academaidd, geisio cyngor un i un ar eu hysgrifennu academaidd, a chymryd rhan mewn sesiynau byr sy'n seiliedig ar sgiliau. Dewch draw i'r gofod Cydweithio, Lefel 5, Pontio ddydd Mawrth 19eg Tachwedd ar gyfer:
- Cyngor galw heibio ar gyfer ymholiadau cyflym a chefnogaeth wrth i chi ysgrifennu;
- Datblygu ymhellach: cyfle i drafod eich syniadau un i un, a'u cofnodi ar eich dyfais symudol;
- Sesiynau sgiliau ciplun ar bynciau gan gynnwys prawf-ddarllen, cyfeirio, strategaethau cyn-ysgrifennu, y broses ysgrifennu a mwy;
- Lle i feddwl ac ysgrifennu.
Cofrestrwch trwy TargetConnect i archebu slot datblygu ymhellach neu le ar sesiwn sgiliau ciplun. Fel arall, trowch i fyny unrhyw bryd rhwng 9-5 ar y diwrnod i gael cymorth galw heibio ac i gyflawni'r aseiniad hwnnw. Bydd lle i ysgrifennu ar eich gliniadur neu dabled ar gael trwy gydol y dydd.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Tachwedd 2019