
Modiwl XAC-3037:
Plant a Cham-drin Sylweddau
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Education and Human Development
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Dr Nia Young
Amcanion cyffredinol
NODYN Ar gyfer 2020-21 bydd y modiwl hwn yn cael ei gyflwyno mewn bloc 6 wythnos.
Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod mwy na 30% o blant a phobl ifanc yn byw mewn teulu yr effeithir arno gan gamddefnyddio neu gam-drin sylweddau. O ganlyniad, mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn debygol o wynebu'r mater hwn ar ryw adeg. Nod y modiwl hwn yw paratoi myfyrwyr i weithio gyda ac ar ran phlant a phobl ifanc sydd ag anawsterau sy'n gysylltiedig â defnyddio cyffuriau. Boed y mater yn ymwneud ag iechyd mam sy'n goryfed mewn pyliau, gofalu am dad sy'n ddibynnol ar heroin neu lywio'r pwysau cymdeithasol i ddefnyddio sylweddau eu hunain, mae'r modiwl hwn yn ystyried yr effaith ar y plentyn. Archwilir barn a phrofiadau plant a phobl ifanc a bydd y modiwl yn caniatáu i fyfyrwyr ddeall sut mae dibyniaeth yn digwydd a sut y gall siapio datblygiad a phrofiad plentyn. Byddwn yn ystyried sut mae cyffuriau cyfreithiol ac anghyfreithlon yn cael eu cyflwyno i blant yn y cyfryngau a thrwy gymdeithas, gan edrych ar gerddoriaeth boblogaidd a theledu plant. Bydd y modiwl hefyd yn edrych ar y stigma sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau yn y teulu ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr fyfyrio ar a datblygu eu safbwynt eu hunain ynglŷn â hyn a fydd yn rhoi sylfaen gadarn ar gyfer eu dull o weithio gyda theuluoedd yn y dyfodol.
Cynnwys cwrs
Bydd y modiwl hwn yn dadansoddi'n bennaf yr agweddau seicolegol-gymdeithasol ar ddibyniaeth ar sylweddau yng nghyd-destun y teulu i ddarparu archwiliad trylwyr o:
- Pam mae pobl yn camddefnyddio sylweddau
- Beichiogrwydd ac ysmygu, yfed a defnyddio cyffuriau
- Beth sy'n digwydd i blant pan fydd rhieni'n cymryd cyffuriau
- Yfed a'r system ofal
- Gofalwyr ifanc a rhieni sy'n ddibynnol ar sylweddau
- Byw gyda brodyr a chwiorydd sy'n gaeth
- Plant sy'n cam-drin sylweddau
- Cyffuriau, y gyfraith a chymdeithas
- Cyffuriau ac enwogrwydd.
Meini Prawf
trothwy
Trothwy: Dealltwriaeth foddhaol o theorïau cyfredol caethiwed, yn cynnwys y gallu i drafod y canlyniadau, yn y tymor byr a’r tymor hir, ar blant sy’n byw gyda chamddefnydd ar sylweddau; ymwybyddiaeth sylfaenol o ganlyniadau cyfreithiol a chymdeithasol camddefnyddio sylweddau, o’r gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â hyn, a’r strategaethau a ddefnyddir i helpu plant sy’n byw gyda chamddefnydd ar sylweddau.
da
Da: Dealltwriaeth dda o theorïau cyfredol caethiwed, yn cynnwys y gallu i drafod y canlyniadau, yn y tymor byr a’r tymor hir, ar blant sy’n byw gyda chamddefnydd ar sylweddau; ymwybyddiaeth gadarn o ganlyniadau cyfreithiol a chymdeithasol camddefnyddio sylweddau, o’r gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â hyn, a’r strategaethau a ddefnyddir i helpu plant sy’n byw gyda chamddefnydd ar sylweddau.
ardderchog
Rhagorol: Dealltwriaeth gynhwysfawr o theorïau cyfredol caethiwed, yn cynnwys y gallu i drafod y canlyniadau, yn y tymor byr a’r tymor hir, ar blant sy’n byw gyda chamddefnydd ar sylweddau; ymwybyddiaeth drylwyr o ganlyniadau cyfreithiol a chymdeithasol camddefnyddio sylweddau, o’r gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â hyn, a’r strategaethau a ddefnyddir i helpu plant sy’n byw gyda chamddefnydd ar sylweddau.
Canlyniad dysgu
-
Deall canlyniadau tebygol hynny hyn y tymor hir, yn ôl ffrwyth ymchwil, ar blant i rieni sy’n gaeth i sylweddau, a gwerthuso’n feirniadol y ddarpariaeth a roddir i helpu plant a phobl ifanc y mae eu plant yn camddefnyddio sylweddau.
-
Deall yn feirniadol yr effaith a gaiff caethiwed a chamddefnydd sylweddau gan rieni ar iechyd corfforol ac emosiynol plant ac ar eu perthynas â’u rhieni.
-
Dangos dealltwriaeth feirniadol oblygiadau ehangach camddefnyddio sylweddau ar blant a phobl ifanc, yn cynnwys ymarweddiadau cymdeithasol, agweddau cyfreithiol, dynameg deuluol a dylanwadau cyfoedion.
-
Adnabod yr asiantaethau a’r gweithwyr proffesiynol a all weithio gyda phlant sy’n camddefnyddio sylweddau eu hunain neu sydd â rhieni’n camddefnyddio, ac adnabod anghenion y plant hynny.
-
Adfyfyrio’n feirniadol ar eu profiadau dysgu eu hunain a’r cysylltiad rhwng hynny a’u syniadau a’u barn eu hunain ynglŷn â phlant a chamddefnyddio sylweddau.
-
Dangos dealltwriaeth feirniadol o’r theorïau cyfredol ynglŷn â chaethiwed i amrywiaeth o sylweddau, a’r modd y mae’r rhain yn berthnasol i blant a phobl ifanc.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
CHWARAE RHAN | Chwarae Rol Tyst Arbennig | Rhowch eich barn am y ffordd orau i ddiogelu plant mewn sefyllfa chwarae rol mewn llys. |
10.00 |
INDIVIDUAL BLOG | Trafodaeth blog | Cyfrannwch at drafodaeth flog am blant, pobl ifanc a sylweddau. Ymatebwch i flogiau eraill yn y grwp. |
40.00 |
ADDRODDIAD | Adroddiad Tyst Arbennig | Yn seiliedig ar ffeil o dystiolaeth, ysgrifennwch adroddiad sydd yn awgrymmu y ffordd gorau i ddiogelu'r plant mewn achos llys am lles plant. |
50.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Lecture | Cyfuniad 6 @ 2 awr / wythnos o sesiynau ar-lein ac ar y campws. |
12 |
Practical classes and workshops | Bydd cyfres o weithgareddau (e.e. grwpiau trafod, darlleniadau set, cwisiau, ac ati) yn cael eu gosod bob wythnos ar-lein. |
42 |
Private study | Astudiaeth personol (167 awr i'w defnyddio mewn darllen, cwblhau gweithgareddau i baratoi ar gyfer darlithoedd ac ysgrifennu aseiniadau) |
146 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Ymwybyddiaeth o ddiogelwch - Bod yn ymwybodol o'ch amgylchedd a hyder o ran cadw at reoliadau iechyd a diogelwch
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Gofalu - Dangos consyrn am eraill; gofalu am blant, pobl ag anableddau ac/neu'r henoed
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Sgiliau pwnc penodol
- reflect upon a range of psychological sociological health historical and philosophical perspectives and consider how these underpin different understandings of babies and young children and childhood
- apply multiple perspectives to early childhood issues recognising that early childhood studies involves a range of research methods theories evidence and applications
- integrate ideas and findings across the multiple perspectives in early childhood studies and recognise distinctive early childhood studies approaches to relevant issues
- evaluate competing positions in relation to the construction of babies and young children and childhood by different subjects societal agents and time place and culture
- constructively critique theories practice and research in the area of child development
- demonstrate knowledge and awareness of the skills needed for different pedagogical approaches including: - the necessary depth and strength of relationships with individual children and children in groups and the facilitation of the building of relationships with and between children - the formation and promotion of mutually respectful relationships with families colleagues other professionals and communities
- critically explore examine and evaluate the significance of the cultural historical and contemporary features of various policies institutions and agencies in regard to babies young children and childhood
- lead support and work collaboratively with others and demonstrate an understanding of working effectively in teams with parents carers and other professionals 11
- demonstrate an understanding of how to plan for and where appropriate implement meeting and promoting children's health well-being protection and safety and the conditions that enable them to flourish
- produce critical arguments for improvements to multi-agency and multiprofessional practices for babies and young children
Adnoddau
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/xac-3037.htmlCyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- C880: BSC Psych with Cl & Hlth Psych year 3 (BSC/PHS)
- C88B: BSc Psychology w Clin & Health Psy (4yr with Incorp Found) year 3 (BSC/PHS1)
- 8X44: BSc Psychology with Clinical & Health Psychology (Int Exp) year 4 (BSC/PHSIE)
- C88P: BSc Psychology with Clinical & Health Psy with Placement Yr year 4 (BSC/PHSP)
- C808: MSci Psychology with Clinical & Health Psychology year 3 (MSCI/PHS)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- X314: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid year 3 (BA/API)
- X316: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymdeithaseg year 3 (BA/APIC)
- X318: BA Astudiaeth Plentyndod ac Ieuenctid a Pholisi Cymdeithasol year 3 (BA/APIPC)
- X320: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Seicoleg year 3 (BA/APIS)
- X319: BA Childhood and Youth Studies and Psychology year 3 (BA/CYP)
- X313: BA Childhood and Youth Studies year 3 (BA/CYS)
- X317: BA Childhood and Youth Studies and Social Policy year 3 (BA/CYSP)
- X315: BA Childhood and Youth Studies and Sociology year 3 (BA/CYSS)
- X321: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg year 3 (BA/PIC)
- C804: BSc Psychology (with International Experience) year 4 (BSC/PIE)
- C800: BSC Psychology year 3 (BSC/PS)
- C81B: BSc Psychology (4 year with Incorporated Foundation) year 3 (BSC/PS1)
- C80F: BSc Psychology year 3 (BSC/PSF)
- C80P: BSc Psychology with Placement Year year 4 (BSC/PSP)
- C81P: BSc Psychology with Forensic Psychology with Placement Year year 3 (BSC/PSYFPP)
- C801: BSC Psychol w Neuropsychol year 3 (BSC/PSYN)
- C83B: BSc Psychology with Neuropsychology (4yr with Incorp Found) year 3 (BSC/PSYN1)
- C809: BSc Psychology with Neuropsy (with International Experience) year 4 (BSC/PSYNIE)
- C84P: BSc Psychology with Neuropsychology with Placement Year year 4 (BSC/PSYNP)
- C810: MSci Psychology with International Experience year 3 (MSCI/PIE)
- C807: MSci Psychology year 3 (MSCI/PS)