Newyddion: Gorffennaf 2013

Cyfraniadau RAG Bangor 2013 at Elusen

Yn ddiweddar cyflwynodd RAG Prifysgol Bangor, un o grwpiau Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor, eu cyfraniadau ariannol blynyddol i'w pedair elusen ddethol. Ar ddechrau pob blwyddyn academaidd, bydd y grŵp, sy'n cynnal nifer o ddigwyddiadau codi arian dros y flwyddyn, yn dewis pedair elusen i godi arian drostynt.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2013

Prosiect ‘Y Rhoi Mawr’ 2013

Mae myfyrwyr Prifysgol Bangor sydd yn awyddus i effeithio faint o sbwriel sy’n cael ei greu gan y rheiny sy’n symud allan o neuaddau preswyl wedi bod a’u trwynau ar y maen yn ddiweddar. Mae’r Rhoi Mawr yn brosiect gwirfoddoli a gynhelir yn flynyddol gan Wirfoddoli Myfyrwyr Bangor ble mae gwirfoddolwyr yn gweithio gyda phreswylwyr yn neuaddau brifysgol i’w galluogi i roddi nwyddau nad ydyn eisiau mynd adref gyda nhw.

Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2013