Methu Adolygu neu Ysgrifennu?
Arholiadau'n agosáu ond nid ydych yn gallu canolbwyntio nac adolygu?
Syllu ar dudalen wen a gofyn i chi eich hun pam mae’n dal yn wag?
Syllu ar dudalen llawn geiriau a gofyn i chi eich hun pam nad ydyw’n gwneud synnwyr?
Gwybod beth rydych chi am ei ddweud ond yn methu â'i ddweud? Ddim syniad beth rydych eisiau ei ddweud?
Methu deall am fod y mathemateg y tu hwnt i chi?
Ar goll pan mae'n dod yn fater o wneud synnwyr o brofion-t a chi-sgwâr?
Wedi drysu gyda’r holl ddata?
Mae'r Ganolfan Sgiliau Astudio'n darparu apwyntiadau unigol 50 munud o hyd ac apwyntiadau mathemateg ac ystadegau er mwyn eich galluogi i weithio trwy eich pryderon am eich aseiniad a’ch pryderon astudio.
Trefnwch apwyntiad ar-lein yma.
Os ydych chi’n mwynhau gweithio gydag eraill, beth am ymuno gydag un o’n grwpiau astudio. Maent yn ffordd berffaith o ysgogi eich hun.
Hefyd, ewch i'n gwefan i ganfod llawer o wybodaeth i’ch helpu i lwyddo yn eich arholiadau: Cyngor am arholiadau; Sgiliau adolygu ac arholiad, a Straen arholiadau. Os ydych chi’n ansicr sut i ddefnyddio gwaith awduron eraill o fewn eich gwaith ysgrifenedig chi, efallai yr hoffech chi roi cynnig ar ein cwis llên-ladrad rhyngweithiol.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2020