Methu Adolygu neu Ysgrifennu?
- Arholiadau'n agosáu ond nid ydych yn gallu canolbwyntio nac adolygu?
- Syllu ar dudalen wen a gofyn i chi eich hun pam mae’n dal yn wag?
- Syllu ar dudalen llawn geiriau a gofyn i chi eich hun pam nad ydyw’n gwneud synnwyr?
- Gwybod beth rydych chi am ei ddweud ond yn methu â'i ddweud? Ddim syniad beth rydych eisiau ei ddweud?
- Methu deall am fod y mathemateg y tu hwnt i chi?
- Ar goll pan mae'n dod yn fater o wneud synnwyr o brofion-t a chi-sgwâr?
- Wedi drysu gyda’r holl ddata?
Mae'r Ganolfan Sgiliau Astudio'n darparu apwyntiadau unigol 50 munud o hyd ac apwyntiadau mathemateg ac ystadegau er mwyn eich galluogi i weithio trwy eich pryderon am eich aseiniad a’ch pryderon astudio.
Trefnwch apwyntiad ar-lein yma.
Os ydych chi’n mwynhau gweithio gydag eraill, beth am ymuno gydag un o’n grwpiau astudio. Maent yn ffordd berffaith o ysgogi eich hun.
Hefyd, ewch i'n gwefan i ganfod llawer o wybodaeth i’ch helpu i lwyddo yn eich arholiadau: Cyngor am arholiadau; Sgiliau adolygu ac arholiad, a Straen arholiadau. Os ydych chi’n ansicr sut i ddefnyddio gwaith awduron eraill o fewn eich gwaith ysgrifenedig chi, efallai yr hoffech chi roi cynnig ar ein cwis llên-ladrad rhyngweithiol.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Ionawr 2021