Arweinwyr Cyfoed
Beth yw Arweinwyr Cyfoed a sut gallant fy helpu i?
Er bod yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer yn eithaf bach gyda chymuned glos o fyfyrwyr a staff cyfeillgar a chroesawgar, gall fod yn brofiad eithaf rhyfedd i ddod i Brifysgol am y tro cyntaf.
Hyd yn oed os ydych yn berson eithaf annibynnol ac wedi treulio amser yn teithio, mae dod i fyw mewn ardal newydd a gwneud ffrindiau newydd yn ogystal ag astudio cwrs newydd yn gallu bod yn anodd.
Rhoi help llaw...
Felly yma ym Mangor, rydym yn ceisio eich helpu i ddod yn gyfarwydd â’r Brifysgol, Yr ardal a’ch cyd fyfyrwyr drwy’r cynllun Arweinwyr Cyfoed. Bydd pob myfyriwr flwyddyn gyntaf yn cael Arweinydd Cyfoed, sef myfyriwr ail neu trydedd flwyddyn fydd ar gael i roi cymorth a chyngor i chi.
Mae’r Arweinwyr Cyfoed wedi ei hyfforddi gan y Brifysgol ac maent wedi mynychu nifer o weithdai arbennig, megis sgiliau cynghori, o fewn yr Ysgol er mwyn ehangu eu gwybodaeth er mwyn eich helpu chi.
Mwy am gynllun Arweinwyr Cyfoed y Brifysgol
Eich croesawu chi i Fangor
Bydd ein harweinwyr cyfoed yn eich cyfarch yn eich Neuaddau Preswyl. Maent ar gael i helpu pob myfyriwr newydd yn ystod wythnos y glas (yr wythnos gyntaf).
Mae ein harweinwyr cyfoed ar gael hefyd pan mae darpar fyfyrwyr yn dod am gyfweliadau ac mewn digwyddiadau fel Diwrnodau Agored.
Bydd modd i chi adnabod ein harweinwyr cyfoed yn ystod Wythnos y Glas gan eu bod i gyd yn gwisgo crysau-T lliwgar.
Dyma rhai o’n Arweinwyr Cyfoed:
Uwch Arweinwyr Cyfoed (Blwyddyn 3)
Conor Charlton-Fleming | Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer | Hannah Minshull | Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer |
Kirsty Done | Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer | Niforissa Binti Musa | Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer |
Jodie Dowrick | Gwyddor Chwaraeon (Gweithgareddau Awyr Agored) | Chelsea Naysmyth-Miller | Gwyddor Chwaraeon |
Rhys Goodwin | Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforal | Carly Owen | MSci Gwyddor Chwaraeon |
Nathanial Hatch-Johnson | Gwyddor Chwaraeon gyda Seicoleg | Kirsty Palmer | Gwyddor Chwaraeon (Gweithgareddau Awyr Agored) |
Niamh Howarth | MSci Gwyddor Chwaraeon | Katy Pearce | Gwyddor Chwaraeon (Gweithgareddau Awyr Agored) |
Hannah Kelley | Gwyddor Chwaraeon | Bethany Rayner | MSci Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer |
Kruti Prashant Kulkarni | Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer | Hannah Smith | Gwyddor Chwaraeon (Gweithgareddau Awyr Agored) |
Isabelle Laflamme-Williams | Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer | Charlotte Welch | Gwyddor Chwaraeon |
Arweinwyr Cyfoed yr Ail Flwyddyn (Blwyddyn 2)
Georgie Laura May Bedford | Gwyddor Chwaraeon | Lucy Jones | Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer |
Peter Gaston | Gwyddor Chwaraeon (Gweithgareddau Awyr Agored) | Eerika Latvanen | Gwyddor Chwaraeon gyda Seicoleg |
Daniel Healey | Gwyddor Chwaraeon | Toby McDowell | Gwyddor Chwaraeon gyda Seicoleg |
Ellen Cait Heaton | Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforal | Catherine Ellen Sarah Owen | Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforal |
Harriet Mary Hicks | Gwyddor Chwaraeon (Gweithgareddau Awyr Agored) | Antigone Price | MSci Gwyddor Chwaraeon (Gweithgareddau Awyr Agored) |
Jessica Lee Hughes | Gwyddor Chwaraeon | Cameron Robertson-Godfrey | Gwyddor Chwaraeon (Gweithgareddau Awyr Agored) |
Magi Elin Hughes | Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforal | Charlotte Rogers | Gwyddor Chwaraeon |
Katie Johansen | Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer | Joseph Sayle | Gwyddor Chwaraeon |
Hanna Lois Jones | Chwaraeon, Iechyd ac Addysg Gorfforal | Holly Lauren Ward | Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer |
Sut i gysylltu ag Arweinydd Cyfoed
Anfonir pecyn croeso i bob myfyriwr newydd (glasfyfyrwyr) ar ôl y broses cadarnhau a chlirio ganol mis Awst/ddechrau mis Medi. Bydd yn cynnwys rhestr lawn o’n harweinwyr cyfoed a’u manylion cyswllt.
Mae tudalen Facebook hefyd wedi cael ei sefydlu ar gyfer myfyrwyr israddedig newydd.Gallwch ddefnyddio’r grŵp hwn i gysylltu â’r myfyrwyr newydd eraill neu’r arweinwyr cyfoed. Cliciwch ar y cyswllt a ganlyn i ymuno â’r grŵp: https://www.facebook.com/groups/217661195329018/
Os ydych yn dechrau ar gwrs yn yr Ysgol fis Medi yma a hoffech gael manylion cyswllt arweinydd cyfoed cyn derbyn y pecyn croeso, cysylltwch â’r cydgysylltydd arweinwyr cyfoed, Eleri Jones , ffôn: 01248 388415.