Dewislen
- Beth yw cynghori?
- Pwy ydym ni?
- Beth ydym ni'n ei gynnig?
- Sesiynau Cefnogi
- Digwyddiadau
- Gwneud Apwyntiad
- Lle'r ydym ni / Oriau agor
- Help arall a linciau defnyddiol
- Cyfrinachedd
- Mynediad at gofnodion
- Datganiad Cydraddoldeb
- Poeni am Rhywun
- Beth mae ein myfyrywyr yn dweud am y Gwasanaeth
- Cysylltiadau Hunangymorth, Phodcastiau a APPS
- Taflenni Gwybodaeth
Beth ydym yn ei gynnig?
Deunyddiau Hunangymorth
Rydym wedi cynnwys cysylltau ar ein hafan i amrywiaeth o wefannau hunangymorth - llyfrau gwaith, cyrsiau ar-lein, phodcastiau and apps - yn cynnwys deunyddiau ar bryder, iselder, oedi, straen arholiad, profedigaeth, problemau cyffuriau ac yfed, anhwylderau bwyta, trais a phynciau eraill.
Rydym hefyd wedi paratoi taflenni gwybodaeth ar amrywiaeth o bynciau, ac rydym yn gobeithio y byddent o ddefnydd i chi.
Gallai’r tudalennau hyn fod yn fan cychwyn defnyddiol i chi cyn cysylltu â ni neu tra byddwch yn disgwyl i gael sesiynau rheolaidd gydag un o’n cwnselwyr. Gweler y dewislen.
Gweithdai 'MiFedrai'
Mae’r Gwasanaeth Cynghori’n cynnal rhaglen o weithdai trwy gydol y flwyddyn, ar faterion fel rheoli iselder, pryder a straen arholiadau. Mae’r rhaglen gweithdai MiFedrai ar agor i unrhyw fyfyriwr ac yn cael ei hysbysu’n eang trwy’r brifysgol.
Sesiynau Cefnogi
Yn ystod yr wythnos rydym yn cynnig sesiynau hanner awr i rai a fyddai'n hoffi peth cefnogaeth yn syth. Mae'r dyddiau a'r amseroedd wedi eu rhestru yma. Archebwch le ar y diwrnod gyda’r Gweinyddwr os gwelwch yn dda.
Sesiynau cwnsela unigol
Gwnewch gysylltiad gyda ni os yr hoffech drefnu asesiad ar gyfer sesiynau cynghori. Yn yr apwyntiad gyntaf, byddwn yn gwrando ac yn sgwrsio gyda chi, a gyda'n gilydd byddwn yn dod i benderfyniad ynghylch yr hyn y gallwn ei gynnig a'r hyn fyddai orau ar gyfer eich anghenion. Pryd hynny gallwn argymell eich cyfeirio at fath arall o gymorth neu awgrymu un neu ragor o'r gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig.
Yn dilyn hyn, efallai cewch gynnig nifer o apwyntiadau gyda chwnselydd. Fel rheol, ceisiwn weithio gyda'n cleientiaid dros gyfnod byr, ond rydym yn cydnabod bod anghenion pawb yn wahanol. Gall un sesiwn fod yn gymorth i un unigolyn, tra bod angen cymorth dros gyfnod hirach ar rywun arall. Bydd eich cwnselydd yn ceisio rhoi awgrym i chi o'r nifer sesiynau a gynigir i chi yn eich sesiwn gwnsela gyntaf. Nod y gwasanaeth yw bod yn ymatebol ac yn deg, ond gwaetha'r modd mae yna adegau pan fydd llawer o alw a'r pryd hynny mae'n bosib y bydd yn rhaid i ni gyfyngu ar yr hyn y gallwn ei gynnig.
Llyfrgell y Gwasanaeth Cwnsela
Mae gennym lyfrgell gynhwysfawr lyfrau hunangymorth sydd ar gael i'w benthyca gan gleientiaid ein gwasanaeth, dan nawdd Alumni Bangor. Mae amrywiaeth o deitlau ar gael i'w benthyca am gyfnodau byr.
Nodir os gwelwch yn dda - Yn ystod pandemig COVID-19, mae'r Gwasanaeth Cwnsela yn cynnig gwasanaethau amgen; felly efallai na fydd cynnwys y dudalen hon yn gyfredol. Gweler ein tudalen gartref am ein gwasanaethau cyfredol.