Newyddion a Digwyddiadau Tai
Cliciwch yma i fynd i wefan Studentpad am restr tai ac am gyngor.
Medi 2020 - Symud i Mewn
Symud i lety preifat yn ddiweddarach y mis yma? Cymerwch olwg ar y Rhestr Wirio Symud i Mewn defnyddiol hon sydd ar gael o’r Swyddfa Tai Myfyrwyr, i'ch helpu i gofio'r pethau sylfaenol: www.bangorstudentpad.co.uk/Local
Gallwch hefyd ddod o hyd i gyngor gan y llywodraeth am symud tŷ yn ystod y pandemig coronafeirws, yma:
https://llyw.cymru/symud-ty-yn-ystod-pandemig-y-coronafeirws
Mehefin 2020
COVID-19 Cwestiynau Cyffredin ynglŷn â Thai
Mawrth/Ebrill 2020 - Cyn i chi adael am y Pasg:
Gwiriwch
Clowch
Gadewch
- Diogelu eich tŷ.
- Cofiwch sicrhau bod pob un o'r ffenestri a'r drysau wedi eu cloi ac yn saff cyn gadael am wyliau'r Pasg, peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd rhywun arall yn gwneud hyn. Os oes gennych unrhyw beth gwerthfawr, cadwch nhw'n ddiogel allan o'r golwg. Cofiwch ddweud wrth eich landlord pryd y byddwch yn gadael ac pryd y byddwch yn ôl.
- Peidiwch ag anghofio gwaredu'ch sbwriel ac ailgylchu'n gyfrifol - am fanylion, ewch i: www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Trigolion/Biniau-ac-ailgylchu/Biniau-ac-ailgylchu.aspx
Mwynhewch y gwyliau Pasg ac fe'ch gwelwn pan ddowch chi yn ôl.
Swyddfa Tai Myfyrwyr www.bangorstudentpad.co.uk
Ionawr 2020 - Wyt ti wedi talu blaendal? Ydi'r landlord wedi ei ddiogelu?
Am awgrymiadau a chyngor ar flaendaliadau, ewch i:
www.citizensadvice.org.uk/wales/housing/renting-privately/during-your-tenancy/check-your-landlord-has-protected-your-deposit/
Rhagfyr 2019 - Contractau
- Wedi dod o hyd i dŷ rydych chi'n hapus ag ef? Ydych chi'n barod i lofnodi contract?
- Meddyliwch cyn llofnodi! Mae contractau'n eich ymrwymo'n gyfreithiol.
- Cysylltwch â’r Swyddfa Tai Myfyrwyr am arweiniad ynghylch eich contract cyn i chi lofnodi.
- Neu ewch i www.bangorstudentpad.co.uk/local am wybodaeth hunan-gymorth.
Rhagfyr 2019 - Diogelu eich tŷ
Hefyd, gwnewch yn siŵr bod y gwres wedi ei osod i ddod ymlaen yn rheolaidd. Cofiwch fod gwres isel cyson yn well na chyfnodau byr o wres uchel, ac wrth gwrs gofalwch fod digon o gredyd yn y mesurydd os oes gennych un. Rhowch wybod i'ch landlord pryd y byddwch yn gadael a beth yr ydych yn bwriadu ei wneud gyda'r system wresogi.
Peidiwch ag anghofio gwaredu'ch sbwriel ac ailgylchu'n gyfrifol - am fanylion, ewch i: www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Trigolion/Biniau-ac-ailgylchu/Biniau-ac-ailgylchu.aspx
Mwynhewch y gwyliau ac fe'ch gwelwn yn y flwyddyn newydd!
Tachwedd 2019
Mi fyddan o gwmpas y campws rhwng y 5ed ar 7fed o Dachwedd yn eich helpu i wneud y penderfyniad cywir ynglŷn â'ch llety ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Hydref 2019
Medi / Hydref 2019
Dyma ychydig o luniau i ddangos yr hyn rydym wedi bod yn ei wneud hyd yn hyn yn ystod y flwyddyn academaidd bresennol:
Serendipity 2019 - Diolch i Seren (papur newydd misol myfyrwyr Prifysgol Bangor) am y lluniau.
Wythnos Ymwybyddiaeth Gwastraff - ymweld â thai yn y gymuned gyda Chyngor Gwynedd ac Undeb Bangor.
Siarad â myfyrwyr i annog arferion ailgylchu da, a helpu i fynd i'r afael ag unrhyw faterion.
Hydref 2019 - Wythnos Am Wastraff
Medi 2019 - Symud i Mewn
Symud i lety preifat yn ddiweddarach y mis yma? Cymerwch olwg ar y Rhestr Wirio Symud i Mewn defnyddiol hon sydd ar gael o’r Swyddfa Tai Myfyrwyr, i'ch helpu i gofio'r pethau sylfaenol:
www.bangorstudentpad.co.uk/Local
Mehefin 2019 - Tacluso'r Tŷ
Ymweld â thai yn y gymuned gyda Undeb Bangor.
Mai / Mehefin / Gorffenaf 2019 - Wyt ti yn byw ar un o'r strydoedd hyn?
Mai 2019 - Symud Allan
Mae Swyddfa Tai Myfyrwyr wedi creu rhestr wirio ddefnyddiol gyda'r hanfodion o symud allan o'ch tŷ, i helpu sicrhau eich bod yn cael diwrnod didrafferth:
www.bangorstudentpad.co.uk/Local
Ebrill 2019 - Cyn i chi adael am y Pasg:
Gwiriwch
Clowch
Gadewch
- Diogelu eich tŷ.
- Cofiwch sicrhau bod pob un o'r ffenestri a'r drysau wedi eu cloi ac yn saff cyn gadael am wyliau'r Pasg, peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd rhywun arall yn gwneud hyn. Os oes gennych unrhyw beth gwerthfawr, cadwch nhw'n ddiogel allan o'r golwg. Cofiwch ddweud wrth eich landlord pryd y byddwch yn gadael ac pryd y byddwch yn ôl.
- Peidiwch ag anghofio gwaredu'ch sbwriel ac ailgylchu'n gyfrifol - am fanylion, ewch i: www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Trigolion/Biniau-ac-ailgylchu/Biniau-ac-ailgylchu.aspx
Mwynhewch y gwyliau Pasg ac fe'ch gwelwn pan ddowch chi yn ôl.
Swyddfa Tai Myfyrwyr www.bangorstudentpad.co.uk
Mawrth 2019 – Dal i chwylio am dy erbyn flwyddyn nesaf?
Does dim angen pryderu os nad ydych chi wedi dechrau chwilio eto, neu os nad ydych wedi gweld rhywle addas. Mae nifer o letyau yn dal ar gael gennym ar gyfer grwpiau neu unigolion. Os ydych yn chwilio fel unigolyn, mae sawl llety gyda ystafell sengl i’w gosod.
Ewch i www.bangorstudentpad.co.uk am fanylion am ein gwefan Studentpad lle gellwch chwilio drwy ein cronfa ddata am yr eiddo delfrydol i’w rentu. Gellwch hefyd lwytho i lawr Cyfarwyddyd i Fyfyrwyr Ynghylch Llety Preifat, sydd wedi’i gynllunio i’ch helpu wrth chwilio am eich tŷ cyntaf yn y sector rhentu preifat, gan dynnu sylw at y pethau i edrych amdanynt a’ch hawliau fel tenant.
Mae’n bwysig ichi beidio â llofnodi unrhyw gytundeb tenantiaeth/contract nes i chi weld/ymweld â’r adeilad hwnnw a gwneud yn siŵr ei fod yn addas ar gyfer eich anghenion.
Cofiwch, os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â chael hyd i rywle i fyw ar gyfer y flwyddyn nesaf, gellwch gysylltu â ni i gael cefnogaeth neu gyngor. Os ydych am gysylltu â ni, ffoniwch ni ar 01248 382034 / 382883 neu anfonwch e-bost i taimyfyrwyr@bangor.ac.uk neu galwch heibio’r Swyddfa Tai Myfyrwyr.
Mawrth 2019 - Wythnos Ar Y Cyd
Ionawr 2019 - Gwobrau Landlordiaid
Ionawr 2019
Wyt ti wedi talu blaendal? Ydi'r landlord wedi ei ddiogelu?
Am awgrymiadau a chyngor ar flaendaliadau, ewch i:
www.citizensadvice.org.uk/housing/renting-a-home/student-housing/students-in-private-rented-accommodation/student-housing-deposits/
Tachwedd 2018
-
"Paid â Phoeni" - Undeb y Myfyrwyr - 13-15 Tachwedd 2018
-
Ffair Neuadd a Chartref - 22 Tachwedd 2018
Hydref 2018 - Peidiwch ag arwyddo contract am dŷ ych a fi!
🎃 Mae yna ormod o dai i fyfyrwyr eu rhannu ym Mangor, felly os nad ydych eisiau aros mewn Neuaddau flwyddyn nesaf, ewch i www.bangorstudentpad.co.uk 🎃
Medi / Hydref 2018
Dyma ychydig o luniau i ddangos yr hyn rydym wedi bod yn ei wneud hyd yn hyn yn ystod y flwyddyn academaidd bresennol:
Diolch i Seren - papur newydd misol myfyrwyr Prifysgol Bangor - am y lluniau.