Dewislen
- Beth yw cynghori?
- Pwy ydym ni?
- Beth ydym ni'n ei gynnig?
- Sesiynau Cefnogi
- Digwyddiadau
- Gwneud Apwyntiad
- Lle'r ydym ni / Oriau agor
- Help arall a linciau defnyddiol
- Cyfrinachedd
- Mynediad at gofnodion
- Datganiad Cydraddoldeb
- Poeni am Rhywun
- Beth mae ein myfyrywyr yn dweud am y Gwasanaeth
- Cysylltiadau Hunangymorth, Phodcastiau a APPS
- Taflenni Gwybodaeth
Sesiynau Cefnogi
Oherwydd covid19, mae system mewn lle i gynnig sesiynau cefnogaeth ar y ar-lein ar gyfer unrhyw fyfyriwr cyfredol ym Mhrifysgol Bangor sy'n cysylltu â ni.
Yr ydym yn cynnig sesiynau cefnogaeth dros y ar-lein o tua 10-20 munud o hyd, y gellir eu harchebu. Bydd y rhain naill ai gyda'r cwnselydd ar ddyletswydd, neu os oes gennych gyswllt eisoes ag un o'r tîm cwnsela, gyda nhw.
Pwrpas y sesiynau cefnogaeth hyn yw cynnig help, cefnogaeth a gwybodaeth, ac ni fyddant yn gwnsela nac yn therapi ffurfiol. Nodir y byddant yn sesiynau un yn un.. Byddwn fel o'r blaen yn gwneud nodiadau cryno o'r cyswllt sydd gennym â chi, ac yn storio'r data hwn yn y ffordd arferol trwy ein cronfa ddata gwasanaeth cwnsela diogel. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw gwnselydd yn gallu gweld y nodiadau hyn os bydd angen; er enghraifft, os oes gennych sesiwn cefnogaeth arall..
Maent ar gael dydd Llun i ddydd Gwener yn ystod oriau gwaith arferol ac yn sesiynau un yn un. Nid oes modd trefnu o flaen llawn, mae;n rhaid trefnu ar y diwrnod y byddwch angen yr apwyntiad.
I archebu sesiwn, anfonwch e-bost atom yn y cyfeiriad arferol - cynghori@bangor.ac.uk a byddwn yn gwneud ein gorau i drefnu amser i chi.
Os y bydd ichi drefnu slot cefnogaeth ar-lein, gofynnir i chi, mewn darpariaeth, lawr-lwytho app Microsoft Teams gan mai dyma sut y byddwn yn cysylltu a chwi. Noder, er ein bod yn gwneud ein gorau i sicrhau bod ein llwybrau ar-lein yn ddiogel, allwn ni ddim gwarantu diogelwch y rhain.
Byddwch yn dal i allu cael mynediad at ein holl adnoddau ar-lein drwy'r tudalennau gwe yma. Mae gennym rai tudalennau ychwanegol yma hefyd, am ffynonellau cefnogaeth allanol eraill a allai fod yn ddefnyddiol i chi yn www.bangor.ac.uk/studentservices/onlinementalhealthresources.php.en
Mae'n bwysig i nodi nad ydym yn Wasanaeth Brys. Os yw eich sefyllfa yn fater o argyfwng, dylid cysylltu â'ch Meddyg Teulu neu, tu allan i oriau gwaith arferol, dylid cysylltu gyda'r Gwasanaeth Argyfwng a Damweiniau yn eich Ysbyty lleol.
Nodir os gwelwch yn dda - Yn ystod pandemig COVID-19, mae'r Gwasanaeth Cwnsela yn cynnig gwasanaethau amgen; felly efallai na fydd cynnwys y dudalen hon yn gyfredol. Gweler ein tudalen gartref am ein gwasanaethau cyfredol.