Dewislen
- Beth yw cynghori?
- Pwy ydym ni?
- Beth ydym ni'n ei gynnig?
- Lle'r ydym ni / Oriau agor
- Sesiynau Cefnogi
- Gwneud Apwyntiad / Cofrestru ar-lein
- Rhaglen Gweithdai, Darlithoedd, Grwpiau a Chyrsiau
- Help arall a linciau defnyddiol
- Cyfrinachedd
- Mynediad at gofnodion
- Datganiad Cydraddoldeb
- Poeni am Rhywun
- Beth mae ein myfyrywyr yn dweud am y Gwasanaeth
- Strategaeth Iechyd Meddwl a Lles dan Arweiniad Myfyrwyr
Hunan-Gymorth
Gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau/ceisiadau apwyntiad drwy ebost i wellbeingservices@bangor.ac.uk |
Newyddion Mehefin 2022: Lansiad Prosiect myf.cymru: Mae myf.cymru yn brosiect iechyd meddwl a llesiant trwy gyfrwng y Gymraeg i fyfyrwyr, sydd wedi creu gwefan o'r un enw. Mae'r adnoddau wedi ei greu mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Grŵp Llandrillo Menai. Ar y wefan, cewch gynnwys gwreiddiol gan fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith a hefyd adnoddau am iechyd meddwl sydd wedi'u hadolygu gan therapyddion Cymraeg eu hiaith. Mae'r prosiect hefyd wedi datblygu Ap ar sail gwaith ‘Moving on in my recovery’, a gallwch ei ddefnyddio i ddilyn 12 cam i edrych ar ôl eich iechyd meddwl. Yn ogystal, ceir podlediad o'r enw ‘Sgwrs?’ sydd yn trafod materion sydd yn effeithio ar fyfyrwyr heddiw. Gweler y gwefan: Home | MYF
|
Yr ydym yn croesawu eich adborth. Os oes gennych unrhyw adborth, cysylltwch ag un o'r canlynol:
Enw | Swydd |
Gian Fazey-Koven | Pennaeth Llesiant a Chefnogi Myfyrwyr |
Jack Jackson | Rheolwr Gwasanaeth Llesiant |
Helen Williams | Rheolwr Swyddfa |
Gwyliwch ein fideo
Myfyrwyr Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor wedi eu lleoli yn ardal Wrecsam: Mae Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam wedi’i chontractio i gynnig cwnsela i fyfyrwyr Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor sydd wedi’u lleoli yn ardal Wrecsam. Bydd mynediad trwy apwyntiad a archebwyd ymlaen llaw yn unig drwy e-bostio Gwasanaeth Cwnsela Prifysgol Glyndŵr ar counselling@glyndwr.ac.uk Os nad yw e-bost ar gael, gellir cysylltu dros ffon ar 01978 294421, fodd bynnag e-bost sydd orau. Yn dilyn cyswllt cychwynnol, bydd Gwasanaeth Cwnsela Prifysgol Glyndŵr yn cysylltu â Gwasanaeth Lles Myfyrwyr Prifysgol Bangor i sicrhau bod y darpar gleient yn fyfyriwr cofrestredig ar hyn o bryd. |
Nodau ac Amcanion
I weld nodau ac amcanion ein gwasanaeth yn llawn, cliciwch yma.
Mae'r Gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr yn aelod o'r Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP) ac yn dilyn eu canllawiau ai polisiau ar cyfrinachedd a gwarchod data.