Dewislen
- Beth yw cynghori?
- Pwy ydym ni?
- Beth ydym ni'n ei gynnig?
- Sesiynau Cefnogi
- Digwyddiadau
- Gwneud Apwyntiad
- Lle'r ydym ni / Oriau agor
- Help arall a linciau defnyddiol
- Cyfrinachedd
- Mynediad at gofnodion
- Datganiad Cydraddoldeb
- Poeni am Rhywun
- Beth mae ein myfyrywyr yn dweud am y Gwasanaeth
- Cysylltiadau Hunangymorth, Phodcastiau a APPS
- Taflenni Gwybodaeth
Darlith iCan: Gwahaniaethu rhwng Deiet ac Anhwylder
Dydd Mercher, 3 Tachwedd 2021 10.30yb–1:00yp Lleoliad: drwy Zoom cysylltwch a wellbeingservices@bangor.ac.uk am y manylion cysylltu.
Hwylusir gan Tamsin Speight, Ymarferydd Anhwylder Bwyta Arbenigol ac Yolanda Snyman, Uwch Ddietegydd
Ydych chi'n poeni am eich siâp a'ch pwysau? Ydych chi’n ceisio colli pwysau a dilyn deiet llym yn aml? Ydych chi'n poeni bod gan un o'ch cydnabod anhwylder bwyta?
Os yw unrhyw un/bob un o'r uchod yn wir amdanoch chi, bydd y ddarlith iCan: Gwahaniaethu rhwng Deiet ac Anhwylder o fudd i chi!
Bydd y ddarlith yn gyfle i chi ddysgu sut i wahaniaethu rhwng deiet ac anhwylder, a sut i gael help neu gynnig help i un o'ch cydnabod a allai fod ag anhwylder bwyta.
Nid oes angen neilltuo lle ymlaen llaw. Os nad ydych yn gallu bod yn bresennol, mae rhagor o gyngor a gwybodaeth ar gael am ddim ar yr ap dwyieithog yma. Deiet neu Anhwylder: Ap rhad ac am ddim wedi'i lunio ar gyfer pobl sy'n poeni bod ganddynt anhwylder bwyta neu sy'n pryderu am eraill. Lawrlwythwch o iTunes neu Google Play Store
Cyfeirir unrhyw ymholiadau at: wellbeingservices@bangor.ac.uk |
Sesiynau Ymwybyddiaeth Ofalgar ar gael drwy Zoom: (cysylltwch a ican@bangor.ac.uk am y linc zoom) |
Mae'r sesiynau'n addas i ddechreuwyr llwyr ac i'r rhai hynny sydd â pheth profiad o Ymwybyddiaeth Ofalgar neu ffurfiau eraill o fyfyrdod. Bydd pob sesiwn yn cynnwys cyfnod o fyfyrdod o dan arweiniad, ac ychydig funudau o adfyfyrio a chwestiynau ar y diwedd. Caiff amrywiaeth o arferion gwahanol eu dysgu yn y sesiynau. Beth yw ymwybyddiaeth ofalgar a sut allai fod yn fuddiol i chi?
Gall manteision ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar gynnwys:
|
Cynhelir pob sesiwn ar ddydd Lau 4yp-4.50yp. | ||
I ddatgan diddordeb, cyfeiriwch ebost at ican@bangor.ac.uk Er mwyn sicrhau sesiwn cyfforddus, ni fyddwn yn cynnig mwy na lle i 24 o fyfyrwyr ymhob sesiwn. Ar gyfer canllawiau moesol ar gyfer y sesiynau, cliciwch yma. |
Adnoddau eraill sydd ar gael ar hyn o bryd: | /mindfulness/audio/index.php.en |
Rhaglen Magu Gwytnwch: Mae'r rhaglen hwn yn cynnig ochr seico-addysgol ar anawsterau cyffredin i fyfyrwyr, megis straen, pryder a hwyliau isel. O'r cyflwyniadau, byddwch yn derbyn gwybodaeth am natur y testun gan alluogi mwy o ddealltwriaeth a dysgu strategaethau ymdopi effeithiol.
Darlith Magu Gwytnwch yn ystod mis Mai 2021 (drwy Teams): cynnigir ochr seico-addysgol ar anawsterau cyffredin i fyfyrwyr, megis straen, pryder a hwyliau isel. O'r darlithoedd, byddwch yn derbyn gwybodaeth am natur y testun gan alluogi mwy o ddealltwriaeth a dysgu strategaethau ymdopi effeithiol. Magu Gwytnwch - Rheoli Pryder Dydd Mercher , 5ed Mai: 11yb-12yp Manylion Cysylltu Zoom: Cyfarfod: 81264065337 Cyfrinair: 171858 Am wybodaeth pellach, cysylltwch ag ican@bangor.ac.uk |
Magu Gwytnwch 1: | Rheoli fy straen | cliciwch yma ar gyfer y cyflwyniad powerpoint |
Magu Gwytnwch 2: | Rheoli fy hwyliau isel | cliciwch yma ar gyfer y cyflwyniad powerpoint |
Magu Gwytnwch 3: | Rheholi fy ngorbryder | cliciwch yma ar gyfer y cyflwyniad powerpoint |
Cyflwyniadau MiFedrai: Cyfle i edrych yn fwy manwl ar faterion yn cyffredin i fywyd myfyrwyr, fel hunan-hyder isel, esomiynau a gor-bryder wrth gyflwyno. |
MiFedrai reoli fy oedi - cliciwch yma Oedi: holiadur personol i fyfyrwyr Oedi: 6 cam Oedi: anadlu 3 munud |
MiFedrai reoli fy emosiynau- cliciwch ar y linc isod ar gyfer cyflwyniad panopto: https://bangor.cloud.panopto.eu/Panopto/Pages/Viewer.aspx?id=936bee93-4f02-4917-8216-abea015fea47 https://bangor.cloud.panopto.eu/Panopto/Pages/Viewer.aspx?id=99d6bfde-f5dc-4b5f-8742-aba00093f85a |
MiFedrai wahaniaethu rhwng deiet ac anhwylder bwyd - cliciwch yma ar gyflwyniad powerpoint |
Cyrsiau Seico-addysgol Mae’r cyrsiau seico-addysgol wedi eu dylunio i helpu fyfyrwyr sydd â problemau cymleth a tymor-hir. Maent yn darparu gwybodaeth ac adnoddau er mwyn deall yn well sut y mae ymdopi ag anawsterau mewn amgylchedd empathetig a chefnogol. Gellwch ddod ar y cyrsiau hyn drwy gael eich cyfeirio a'ch asesu'n unig. |
Dosbarthiadau sgiliau DBT Y cyrsiau hyn, byddwch yn dysgu sut i adnabod a deall eich emosiynau a datblygu sgiliau i allu reoli emosiynau di-fudd heb ymddwyn yn fyrbwyll. Rhaglen Lawn DBT Rhaglen 20 wythnos i redeg yn Semester 1 a 2 yn dechrau ym mis Hydref. Mae'n cynnwys datblygu sgiliau drwy:-
Gweld yma am fwy o wybodaeth Effeithiolrwydd Rhyngbersonol Cwrs 9 wythnos i'w gynnal yn Semester 2 yn dechrau ym mis Ionawr.
|
Dod ymlaen yn well â chi eich hun ac erail Cwrs 8 wythnos i'w gynnal yn Semester 1 a Semester 2. Yn y cwrs seico-addysgol hwn, byddwch yn:
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma. |
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau parthed y cyrsiau uchod at cynhori@bangor.ac.uk |
Datganiad: Nodir os gwelwch yn dda - Yn ystod pandemig COVID-19, mae'r Gwasanaeth Cwnsela yn cynnig gwasanaethau amgen; felly efallai na fydd cynnwys y dudalen hon yn gyfredol. Gweler ein tudalen gartref am ein gwasanaethau cyfredol.