Adnoddau a Chyfleusterau
Ystafelloedd Technoleg Gynorthwyol
Mae gan y brifysgol dwy ystafell Technoleg Gynorthwyol (YTG); un ym Mhrif Lyfrgell y Celfyddydau, a'r llall yn Llyfrgell Safle’r Normal. Mae Ystafell Technoleg Gynorthwyol yn cael ei datblygu ar Gampws Wrecsam.
Mae'r Ystafelloedd Technoleg Gynorthwyol (ATRs) yn fannau mynediad cyfyngedig, i'w defnyddio gan fyfyrwyr â'r addasiad hwn yn eu Cynlluniau Cefnogi Dysgu Personol (CCDP). Er mwyn sicrhau pellter cymdeithasol, dim ond un person ar y tro all ddefnyddio'r ystafelloedd bach hyn. I drefnu amser i ddefnyddio'r YTG/ATR ym Mhrif Lyfrgell y Celfyddydau, e-bostiwch iss808@bangor.ac.uk.
Prif Adeilad y Celfyddydau
Mae’r ystafell wedi’i lleoli yn y Lle Dysgu Cymdeithasol ar y llawr gwaelod. Yn yr Ystafell, ceir dau gyfrifiadur, bolgynnwr Braille a Rainbow ScannaR (a gynlluniwyd ar gyfer defnyddwyr sydd â namau ar y golwg).
Mae meddalwedd yn cynnwys:
- EasyConverter (yn creu dogfennau hygyrch yn Word).
- OpenBook (yn trosi dogfennau printiedig neu destun sy’n seiliedig ar graffeg i fformat testun electronig , gan ddefnyddio lleferydd o ansawdd a’r dechnoleg i adnabod nodau gweledol (OCR)), print mawr, sain MP3, llyfrau llafar DAISY a Braille).
- Darllenydd sgrîn JAWs.
Adnoddau Technoleg Gynorthwyol Llyfrgell Safle'r Normal
Lleolir yr ystafell yn Ystafell H012 (yr ystafell astudio tawel) drws nesaf i'r Ganolfan Addysg Grefyddol yn adeilad y llyfrgell. Mae'r ystafell yn cynnwys dau fonitor cyfrifiadur sgrin fawr a byrddau y gellir addasu eu huchder. Mae'n cynnig lle i fyfyrwyr gyda Chynlluniau Cefnogi Dysgu Personol (PLSP) weithio mewn amgylchedd tawelach.
Offer / Technoleg Gynorthwyol ar gael i'w benthyca
Mae gan y Gwasanaethau Anabledd ychydig o offer a thechnoleg gynorthwyol y gellir eu benthyca i fyfyrwyr, yn amodol ar argaeledd ac angen a aseswyd, yn cynnwys:
- Gliniaduron
- Recordwyr llais digidol
- CCTV cludadwy
- Offer ergonomeg
- SuperNova Magnifier a Screenreader
Adnoddau / cyfleusterau eraill
Mae gan y Brifysgol drwydded safle ar gyfer SensusAccess. Mae hwn yn ddull hunan-wasanaeth sy'n galluogi myfyrwyr a staff Prifysgol Bangor i drosi dogfennau'n awtomatig i fformat arall, yn cynnwys llyfrau-llafar, e-lyfrau a Braille digidol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Gwasanaethau Anabledd, Ganolfan Access
Wedi'i ddiweddaru 27.11.2020