Derbynfa Rithwir
Ydych chi’n colli gallu mynd i gasglu cynlluniwr gwaith neu slip melyn o Dderbynfa Gwasanaethau Anabledd? Mae’r Tîm Gweinyddol wedi creu’r Dderbynfa Rithwir hon sy’n cynnwys yr holl ddogfennau y byddai myfyrwyr fel arfer yn gallu eu codi o’n derbynfa yn Rathbone.
Oes gennych gwestiwn y byddech chi fel arfer yn ei ofyn i Medwen? Beth am geisio gweld a all ein tudalen Cwestiynau Cyffredin helpu yn y lle cyntaf? Os na, mae Medwen ar-lein yn ystod oriau swyddfa arferol a byddant yn ateb eich e-byst yn brydlon.
Os ydych yn newydd i’r Gwasanaeth Anabledd, os gwelwch yn dda cliciwch yma i gael trosolwg o bwy ydyn ni a beth rydyn ni’n ei wneud.
Mae’r Tîm Gweinyddol yma i’ch helpu bob amser!
Cwestiynnau Cyffredin Poblogiadd
Sut alla i gael Cynllun Cefnogi Dysgu Personol (PLSP)?
Mae angen i chi gymryd nifer o gamau:
- Cofrestru gyda’r Gwasanaethau Anabledd. Gellwch wneud hynny ar: https://apps.bangor.ac.uk/plsp/applicant/
- Cydsynio i rannu gwybodaeth. Wrth gofrestru, rhowch ü yn y blwch cydsynio i rannu gwybodaeth. Darllen ein polisi cyfrinachedd.
- Rhoi tystiolaeth o anabledd i ni.
Am fanylion pellach fel pa dystiolaeth a dderbynnir, a’r broses o gael eich Cynllun Cefnogi Dysgu Personol, cliciwch yma.
I weld pa gefnogaeth y gall Cynllun Cefnogi Dysgu Personol ei gynnig, darllenwch Eglurhad o’ch Cynllun Cefnogi Dysgu Personol.
Sut mae cael slip melyn?
I fynd at y slip melyn electronig:
- Ewch i’ch tudalen Cynllun Cefnogi Dysgu Personol.
- De-gliciwch ar y ddelwedd o slip melyn.
- De-gliciwch ar y ddelwedd copïo.
- Gludwch y ddelwedd i ddogfen Word.
- Fel arall gellir llusgo’r ddelwedd o’r dudalen cynllun cefnogi dysgu personol yn syth i ddogfen Word.
Sut ydw i’n trefnu fy nghefnogaeth sgiliau astudio un-i-un?
I drefnu’ch cefnogaeth sgiliau astudio un-i-un a strategaeth arbenigol, e-bostiwch: cymorth121arbenigol@bangor.ac.uk.
Mae angen i mi gofrestru gyda meddyg teulu.
Mae’r Brifysgol wedi dod i gytundeb â meddygfa leol i ddarparu gwasanaethau arbennig ar gyfer myfyrwyr.
Delir y cytundeb hwn ar hyn o bryd gan y Ganolfan Feddygol Bodnant, Rhodfa Menai, Bangor Uchaf.
Cewch fwy o wybodaeth yma dan Iechyd a Lles.
Gellwch gofrestru gyda’r feddygfa trwy lenwi Ffurflen GMS1
Rydw i eisiau gael fy asesu ar gyfer Dyslecsia?
I drefnu asesiad ar gyfer Dyslecsia, cysylltwch â’r Gwasanaeth Asesu Diagnostig.
Os ydych chi’n ansicr a oes angen yr asesiad llawn arnoch ai peidio, rydym hefyd yn cynnig sgrinio rhagarweiniol trwy holiadur e-bost. Unwaith y bydd hyn wedi’i gwblhau, byddwn yn trafod gyda chi’r camau nesaf ar gyfer cefnogaeth y gallai fod ei hangen arnoch.
Mae’r holiadur sgrinio yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr Prifysgol Bangor.
I ofyn am un o’r rhain, e-bostiwch asesiad@bangor.ac.uk.
A allwch chi fy helpu i wneud cais am Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA)?
Mae’r Ganolfan Asesu wedi rhoi gwybodaeth at ei gilydd i gynorthwyo gyda Gwneud cais am LMA.
Am arweiniad pellach, e-bostiwch asesiad@bangor.ac.uk.
Os ydych eisoes wedi gwneud cais am DSA, ond yn ansicr sut i drefnu Asesiad o’ch Anghenion, cysylltwch â’n Canolfan Access, a fydd yn gallu rhoi gwybodaeth bellach a threfnu’ch Asesiad o’ch Anghenion.