Arholiadau ar y gorwel?
Mae gan wefan y Ganolfan Sgiliau Astudio (http://studyskills.bangor.ac.uk/study_exams.php.cy?) lawer o wybodaeth i’ch helpu chi i lwyddo yn eich arholiadau, ond dyma rai awgrymiadau a all fod o gymorth i roi hwb i’ch adolygu.
· Dechreuwch drwy gywain nodiadau perthnasol a’u rhoi mewn trefn. Yna ysgrifennwch grynodebau o’ch nodiadau gan ystyried strwythur thematig posib ar gyfer eich ateb drafft.
· Wrth ddarllen ac ymchwilio o amgylch eich pwnc yn ddyfnach er mwyn ymgyfarwyddo â ffynonellau amgenach o wybodaeth, cofiwch werthuso’n feirniadol yr hyn rydych chi’n ei ddysgu. Nodwch y safbwyntiau o blaid ac yn erbyn, cyfeiriwch at unrhyw gymariaethau ac ewch i’r afael â’ch pwnc a’ch gwaith darllen yn ôl y themâu sy’n codi.
· Defnyddiwch Facebook a Twitter i drafod eich maes gyda’ch ffrindiau. Gallech chi greu grŵp astudio rhithwir neu go iawn i godi cwestiynau am y pwnc gan ofyn i’ch ffrindiau farcio ac asesu eich atebion drafft.
· Edrychwch ar gyn bapurau arholiad i chi ddod yn gyfarwydd â’r math o gwestiynau a ofynnir ac er mwyn i chi ragweld beth i’w ddisgwyl ar ddiwrnod yr arholiad. Meddyliwch pa gwestiynau y bydd angen i chi eu hateb a pha gwestiynau fydd angen i chi ddewis ohonynt. Bydd hyn yn arbed amser ac yn osgoi dryswch i chi ar y diwrnod. Os nad oes digon o gyn bapurau arholiad ar gael dewch at eich gilydd gyda’ch ffrindiau i ysgrifennu cwestiynau eich hun, a chofiwch amseru eich gilydd.
· Lluniwch gynllun traethawd i gynnal strwythur eich ateb. Dewch i’r arfer o ymarfer ysgrifennu, drafftio a golygu eich cynllun wrth i chi adolygu, a byddwch yn barod i addasu ac ailstrwythuro eich cynllun wrth i chi ddarllen mwy. Drwy wneud hyn drosodd a thro byddwch yn dod i adnabod y bylchau yn eich gwybodaeth ac yn medru cwmpasu mwy o bynciau.
· Dewch i’r arfer o ymarfer ysgrifennu traethawd arholiad yn llawn, gan gofio am y strwythur a’r amseru. Byddwch yn sylweddoli faint o ysgrifennu sy’n bosib o fewn y cyfyngiad amser, a thrwy ymarfer o dan amodau arholiad o flaen llaw, heb unrhyw nodiadau, bydd y profiad o sefyll yr arholiad ei hun yn llai brawychus.
Dyddiad cyhoeddi: 6 Rhagfyr 2016