Cadwch yr awen i lifo
Mae’r Ganolfan Sgiliau Astudio yn cynnal cyfres o un ar ddeg gweithdy rhyngweithiol sy’n agored i bob myfyriwr ar draws pob lefel astudio. Darpara’r gyfres hon gyfle ymarferol i archwilio materion sy’n ganolog i’r broses o ysgrifennu’n academaidd. Mae’r gweithdai yn seiliedig ar dasgau, sy’n eich galluogi i ddysgu drwy wneud a chwestiynu. Mae’r gyfres yn cynnwys y themâu canlynol:
- Llwyddo gyda’ch astudiaethau is-raddedig
- Llwyddo gyda’ch astudiaethau ôl-raddedig
- Cynllunio i ysgrifennu
- Deall cwestiynau traethawd
- Darllen i ysgrifennu
- Aralleirio ac osgoi llên-ladrad
- Sut i gryfhau eich dadl
- Rhoi graen ar eich gwaith
- Gwneud y gorau o’ch adborth
- Hyder i gyflwyno ar lafar
- Gwneud y gorau mewn arholiadau
Mae croeso i chi ddilyn y rhaglen weithdai gyflawn, neu ddewis o’r sesiynau hynny’n unig sy’n apelio atoch chi. Mae’r gweithdai yn rhad ac am ddim ac mae modd archebu eich lle ar-lein. Bydd lleoliad y gweithdai yn cael eu datgelu unwaith fyddwch chi wedi archebu eich lle. I gael amlinelliad llawn o’r rhaglen ac i archebu eich lle, ewch i: https://www.bangor.ac.uk/studyskills/workshops/rhaglen
Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2018