Cadwch yr awen in lifo
Mae’r Ganolfan Sgiliau Astudio yn cynnal cyfres o un ar bymtheg o weithdai rhyngweithiol sy’n agored i bob myfyriwr ar draws pob lefel astudio. Darpara’r gyfres hon gyfle ymarferol i archwilio materion sy’n ganolog i’r broses o ysgrifennu’n academaidd. Mae’r gweithdai yn seiliedig ar dasgau, sy’n eich galluogi i ddysgu drwy wneud a chwestiynu. Mae’r gyfres yn cynnwys y themâu canlynol:
- Awgrymiadau Gorau i Astudio'n Llwyddiannus
 - Ymdrin ag Astudio Academaidd
 - Rheoli eich amser
 - Gwneud nodiadau mewn darlithoedd a seminarau
 - Dulliau o ymdrin ag ysgrifennu academaidd
 - Dadansoddi cwestiynau traethawd
 - Beth ddylwn i ei ddarllen?
 - Cael y budd mwyaf o'ch darllen
 - Cynlluniau traethawd
 - Llên-ladrad, cyfeirio a dyfynnu
 - Aralleirio'n dda
 - Ysgrifennu beirniadol
 - Gwneud i'ch ysgrifennu lifo
 - Paragraffu'n dda
 - Prawfddarllen
 - Defnyddio sylwadau ar eich gwaith
 
Mae croeso i chi ddilyn y rhaglen weithdai gyflawn, neu ddewis o’r sesiynau hynny’n unig sy’n apelio atoch chi. Mae’r gweithdai yn rhad ac am ddim ac mae modd archebu eich lle ar-lein. Bydd lleoliad y gweithdai yn cael eu datgelu unwaith fyddwch chi wedi archebu eich lle. I gael amlinelliad llawn o’r rhaglen ac i archebu eich lle, ewch i: https://www.bangor.ac.uk/studyskills/workshops/rhaglen

Dyddiad cyhoeddi: 16 Medi 2019