Cronfa Caledi Gwyliau’r Haf
Mae gan y Brifysgol gyllid wedi ei gadw i’r neilltu i helpu myfyrwyr ‘cartref’ israddedig, llawn amser yn y flwyddyn 1af ac 2ail sydd methu cefnogi eu hunan yn ystod cyfnod gwyliau’r haf. Mae’r gronfa yn gyfyngedig felly mae dosbarthu i unigolion yn ôl ewyllys y Brifysgol.
I fod yn gymwys i ymgeisio am daliad o’r Gronfa Galedi’r Haf mae rhaid i fyfyrwyr allu dangos nad ydynt yn gallu gweithio oherwydd amgylchiadau teuluol, anableddau neu salwch.
Dyddiad cau ar gyfer ymgeisio: 15 Mehefin 2018
Os ydych angen cymorth neu gyngor pellach cysylltwch gyda’r Uned Cymorth Ariannol:
Ffôn 01248 38 3566 / 38 3637
E-bost: cymorthariannol@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mai 2018