Dathlu Dawn Entrepreneuraidd Ifanc yng Nghymru!
Mae B-Fentrus, mewn cydweithrediad â Syniadau Mawr Cymru, yn annog myfyrwyr Prifysgol Bangor o dan 25 oed i ymgeisio mewn cystadleuaeth newydd, Dathlu Syniadau Mawr Cymru.
I bwy mae’r gystadleuaeth?
Mae Dathlu Syniadau Mawr ar gyfer unigolion a thimau o bobl 16-25 oed yng Nghymru sydd â syniad busnes da, busnes sydd ar waith, neu wedi codi arian dros elusen.
Pam ymgeisio?
- Ennill! Bydd y goreuon yn cael eu gwahodd i gystadlu yn ein digwyddiad dathlu ar ddiwedd mis Mawrth, gan ddenu gwobrau ac o bosib llwyddiant busnes i’r sawl sy’n cael eu dewis.
- Sgiliau newydd, hyder newydd! Bydd y broses ymgeisio yn creu ffocws ac yn gwella syniadau busnes. Cewch gydnabyddiaeth gan weithwyr busnes proffesiynol - helpu i ysbrydoli chi i ymrwymo’r busnes neu syniad a’i gymryd ymhellach.
- Cydnabyddiaeth i syniadau gwych! Bydd cymryd rhan yn y gystadleuaeth yn hyrwyddo’ch syniadau i gynulleidfa ehangach, gan gynnwys entrepreneuriaid Cymru.
Sut i wneud cais?
Ewch i www.syniadaumawr.cymru a llenwch y ffurflen gais.
Fe welwch wybodaeth am y chwe chategori sydd ar gael ac adran am Gwestiynau Cyffredin hefyd ar gyfer unrhyw gwestiynau eraill sydd gennych chi.
Y dyddiad cau ar gyfer geisiadau yw hanner nos ar 3 Chwefror, felly ewch i www.syniadaumawr.cymru heddiw.
Os oes angen cymorth gyda’ch syniad, mae B-Fentrus ar gael i’ch helpu trwy gynnig gweithdai, mentora busnes un-i-un, ac amrywiaeth o becynnau cymorth eraill. E-bostiwch b-fentrus@bangor.ac.uk neu ewch i www.facebook.com/bfentrus am fwy o wybodaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Ionawr 2017