GCB a’r HEAR
Darllenwch ymlaen am wybodaeth a chyngor am y GCB a’r HEAR ac i glywed am newidiadau i wella’r GCB sydd wedi digwydd dros yr Haf!
Fy Hwb Cyflogadwyedd ar Fy Mangor ydi’ch lle chi ar y we i gymryd rhan yng Ngwobr Cyflogadwyedd Bangor ac i gofnodi gweithgareddau ar gyfer eich HEAR (trawsgrifiad academaidd sy’n cynnwys llwyddiannau allgyrsiol).
Gallwch gofnodi cannoedd o wahanol weithgareddau ar eich cyfrif cyflogadwyedd, o swyddi rhan amser i wirfoddoli, i hyfforddiant a clybiau a chymdeithasau – mae rhywbeth i bawb!
Bydd myfyrwyr blwyddyn 1 yn cael cyflwyniad llawn i’r GCB a HEAR yn eich amserlen – ewch i’ch amserlen neu cysylltwch gyda ni i gadarnhau y dyddiad/amser.
Mae croeso i unrhyw fyfyriwr israddedig fynychu ein sesiynau gwybodaeth am gyflwyniad llawn i’r GCB a HEAR, dewch ac unrhyw gwestiwn sydd ar eich meddwl:
- Dydd Iau, Tachwedd 1af, 1yp, Darlithfa 1, Prif Adeilad
- Dydd Mawrth, Rhagfyr 4ydd, 12yp, Alun A0:01
Rydym wedi gwneud gwelliannau i Fy Hwb Cyflogadwyedd yn ystod yr haf, ac wedi symleiddio’r Wobr Gyflogadwyedd:
- Mae’r categori cyd-gwricwlaidd (piws) nawr yn opsiynol – nid oes lleiafswm XP o’r categori yma rhagor
- Rydym wedi symleiddio’r tudalennau gweithgaredd, a gwneud y canllawiau tystiolaeth yn gliriach
- Mae’r tasgau a’r gofynion o fewn y Rhaglen Graidd wedi cael gweddnewidiad! Rydych nawr yn gallu cwblhau tasgau a gweithdai ar-lein drwy ffurflen ar-lein, ble rydych yn lawr lwytho’ch atebion ar ôl gorffen.
- Rydym wedi cyhoeddi gweithdy gwybodaeth ar-lein am y GCB, yn egluro popeth rydych angen i wybod am y wobr - https://apps.bangor.ac.uk/bea/activity/4425/
Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth am y GCB. Cysylltwch gyda ni os oes gennych ymholiadau neu broblemau, neu i rannu elfennau o’r GCB rydych yn hoff ohonynt gyda ni! Cyflogadwyedd@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 23 Hydref 2018