Methu adolygu nac ysgrifennu?
- Arholiadau'n agosáu ond nid ydych yn gallu canolbwyntio nac adolygu?
- Syllu ar dudalen wen a gofyn i chi eich hun pam mae'n dal yn wag?
- Syllu ar dudalen llawn geiriau a gofyn i chi eich hun pam nad ydynt yn gwneud synnwyr?
- Gwybod beth rydych chi am ei ddweud ond yn methu â'i ddweud? Ddim syniad beth rydych eisiau ei ddweud?
- Methu deall am fod y mathemateg y tu hwnt i chi?
- Ar goll pan mae'n dod yn fater o wneud synnwyr o brofion-t a chi-sgwâr?
- Wedi drysu wyneb yn wyneb â'r holl ddata?
Mae'r Ganolfan Sgiliau Astudio'n darparu apwyntiadau ysgrifennu unigol 50 munud ac apwyntiadau mathemateg ac ystadegau er mwyn eich galluogi i weithio trwy eich pryderon am eich aseiniad a'ch pryderon astudio. Gellir archebu apwyntiadau ar-lein neu dros y ffôn ar 01248 382689. Os hoffech ymchwilio i ffyrdd o osgoi llên-ladrad a defnyddio'ch deunydd ffynhonnell yn effeithiol ar gyfer eich aseiniadau, rhowch gynnig ar ein cwis rhyngweithiol newydd. Hefyd, ewch i'n gwefan i gael llawer o wybodaeth sydd yno i'ch helpu i lwyddo yn eich arholiadau: cyngor am arholiadau; sgiliau adolygu ac arholiad, straen arholiadau a'n hadnodd rhyngweithiol newydd Adolygu ar gyfer Arholiadau.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Ionawr 2020