Myfyrwyr Newydd - Y Penwythnos y byddwch yn cyrraedd Bangor Dydd Sadwrn 20fed Medi / Dydd Sul 21fed Medi
Croeso i Fangor! - Dewch i gyfarfod â'r Cynghorwyr!
Wedi'r haf hirfelyn tesog, mae'r flwyddyn academaidd newydd ar ein gwarthaf a byddwch ar eich ffordd i Fangor yn fuan iawn! Byddwch yn cael digon o wybodaeth am weithgareddau'r Wythnos Groeso gan eich Ysgol a chan Undeb y Myfyrwyr. Cofiwch fanteisio ar bob cyfle i ymuno mewn unrhyw weithgareddau sy'n apelio atoch, ond hefyd gofalwch ymlacio tipyn pan fedrwch cyn dechrau'r tymor. Bydd y rhai ohonoch sydd wedi archebu ystafelloedd yn y Neuaddau Preswyl yn cyrraedd ddydd Sadwrn 20 neu ddydd Sul 21 Medi. Bydd staff y Neuaddau, wardeniaid ac arweinwyr cyfoed yno i’ch helpu i ymgartrefu a gallant gynorthwyo gyda'ch holl ymholiadau cyffredinol.
Os hoffech gael sgwrs gydag un o Gynghorwyr y Gwasanaeth Anabledd, byddant ar gael ar Safle Ffriddoedd o 10.00am - 4.00pm ar y ddau ddiwrnod. Galwch i mewn i'n gweld yn ystafell gyffredin llawr isaf Neuadd Braint, neu cysylltwch â ni erbyn dydd Iau 19 Medi os hoffech drefnu apwyntiad penodol. Os na lwyddwch i'n gweld dros y penwythnos hwnnw, neu os na fyddwch yn byw mewn Neuadd, trefnwch apwyntiad yn ystod yr Wythnos Groeso fel y gallwn ddechrau dod i'ch adnabod a gofalu bod eich PLSP yn barod at ddechrau'r tymor. Anfonwch e-bost gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk neu ffoniwch Tracey ar 01248 382032.
Dymuniadau gorau oddi wrth Fiona, Cheryl, Esther a Ruth.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Medi 2014