Datganiad safbwynt ar Gŵn Cymorth ac Anifeiliaid Therapi/Anifeiliaid Cefnogaeth Emosiynol (Myfyrwyr)
Cŵn Cymorth
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 (y ddeddf) yn nodi pan fo rhywun yn anabl ac felly'n cael ei amddiffyn rhag gwahaniaethu ar sail anabledd. Mae cŵn cymorth wedi eu hyfforddi'n arbennig i gyflawni dyletswyddau penodol i bobl anabl (yn unol â'r diffiniad yn y ddeddf). Mae'r anifeiliaid hyn wedi eu cynnwys dan y ddeddfwriaeth ac fe'u caniateir yn gyfreithiol i fod gyda'u perchennog, partner neu eu hyfforddwr ym mhob man (Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 2017).
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010, a173, yn diffinio cŵn cymorth fel a ganlyn:
- Ci sydd wedi ei hyfforddi i dywys person dall.
- Ci sydd wedi ei hyfforddi i gynorthwyo rhywun byddar.
- Ci sydd wedi ei hyfforddi gan elusen ragnodedig i gynorthwyo unigolyn anabl sydd ag anabledd sy'n cynnwys epilepsi neu anabledd arall sy'n effeithio ar symudedd, gallu i drin pethau â'r dwylo, cyd-drefniant corfforol neu allu i godi, cario neu symud eitemau pob dydd.
- Ci o gategori rhagnodedig sydd wedi ei hyfforddi i gynorthwyo rhywun sydd ag anabledd (ac eithrio'r hyn a nodwyd uchod) o fath rhagnodedig.
Mae hyn yn golygu cŵn sydd wedi'u hyfforddi'n drylwyr. Efallai bod rhai wedi’u cofrestru gydag un o'r aelod-sefydliadau a restrir gan Assistance Dogs International (ADI) neu Assistance Animals UK (ADUK).
Ar hyn o bryd, mae'r sefydliadau canlynol yn aelodau llawn cofrestredig o ADUK:
- Canine Partners
- Dog A.I.D
- Dogs for Good
- Guide Dogs
- Hearing Dogs for Deaf People
- Medical Detection Dogs
- Support Dogs
- The Seeing Dogs Alliance
- Autism Dogs
- Darwin Dogs
- Dogs for Autism
- Service Dogs UK
- Veterans with Dogs
- Bravehounds
(Assistance Dogs UK, 2025)
Mae sefydliadau ac unigolion y tu allan i ADUK hefyd yn hyfforddi cŵn cymorth, sy'n llwybr cwbl gyfreithiol. Mae croeso i bob ci cymorth cyn belled â'u bod yn bodloni safonau derbyniol, gan sicrhau diogelwch y perchennog a'r cyhoedd. Efallai y bydd rhai perchnogion-hyfforddwyr yn dewis achredu eu ci cymorth trwy'r Assistance Dog Assessment Association (ADAA), er nad yw hyn yn ofynnol yn gyfreithiol.
Er nad yw'r ddeddfwriaeth yn diffinio 'ci o gategori rhagnodedig', mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn nodi: Nid anifeiliaid anwes yw cŵn cymorth a chânt eu trin fel 'cymhorthion ategol' o dan y ddeddf. Mae cŵn cymorth yn cael hyfforddiant trwyadl sy'n golygu na fyddant yn crwydro'n rhydd o amgylch yr adeilad, a byddant yn eistedd neu'n gorwedd yn dawel ar y llawr wrth ymyl eu perchennog ac maent yn annhebygol o faeddu mewn man cyhoeddus (Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 2017).
Anifeiliaid Therapi ac Anifeiliaid Cefnogaeth Emosiynol
Mae cynnydd cynyddol mewn defnyddio 'anifeiliaid therapi' neu 'anifeiliaid cefnogaeth emosiynol' i bobl ag ystod o anawsterau gan gynnwys problemau iechyd meddwl ac awtistiaeth. Ond nid yw'r anifeiliaid hyn wedi eu hyfforddi'n benodol i gyflawni unrhyw dasg benodol, ond yn hytrach, eu swyddogaeth yw bod yn gysur neu'n gefnogaeth. Er bod hyn yn wahanol i anifail anwes, nid oes statws cyfreithiol i'r anifeiliaid hyn yn y DU ar hyn o bryd. Er bod rhywfaint o dystiolaeth y gall ymyriadau gydag anifeiliaid cymorth fod yn ddefnyddiol, mae'r mwyafrif o'r farn bod diffyg tystiolaeth wyddonol ar hyn o bryd (Audrestch et al, 2015; Kazdin, 2017; O’Haire, 2013; O’Haire et al, 2015; Serpell et al, 2017).
Safbwynt Prifysgol Bangor
Safbwynt Prifysgol Bangor ar y sefyllfa hon, felly, yw dim ond cŵn cymorth hyfforddedig sy'n mynd gyda myfyriwr i'r brifysgol fydd yn cael mynd i mewn i adeiladau a chyfleusterau'r brifysgol, gan gynnwys neuaddau preswyl, yn unol â'r gyfraith.
Mae'r brifysgol yn disgwyl i berchnogion allu dangos bod eu ci cymorth wedi cael hyfforddiant trwyadl a'i fod yn bodloni'r meini prawf a nodir ar hyn o bryd gan y Ddeddf Cydraddoldeb ac sydd wedi eu cynnwys yng nghanllawiau'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (2017).
Mae'r brifysgol yn disgwyl i berchnogion sicrhau bod eu Ci Cymorth wedi'i hyfforddi'n dda ac yn bodloni disgwyliadau'r brifysgol (gweler isod).
Os gellir darparu gwaith papur perthnasol, caiff yr achosion hyn eu hystyried ar sail unigol. Bydd disgwyl i'r perchennog gwblhau ffurflen Cytundeb Ymddygiad. Cyfrifoldeb y perchennog yw atal a chywiro camymddygiad ci cymorth.
Ar hyn o bryd, nid yw anifeiliaid eraill yn dod o dan ddeddfwriaeth ac ni chaniateir iddynt ymuno â myfyrwyr mewn unrhyw adeilad neu gyfleuster sy'n eiddo i'r brifysgol na chael eu lletya yn neuaddau'r brifysgol. Er y gall bod gydag anifeiliaid a gofalu amdanynt fod yn therapiwtig, nid ydym yn cefnogi dibyniaeth emosiynol ar anifail fel ffordd briodol o fod mewn amgylchedd dysgu. Rydym yn annog darpar fyfyrwyr a myfyrwyr cyfredol i gysylltu â'n Cynghorwyr Iechyd Meddwl i drafod strategaethau amgen.
Mae Prifysgol Bangor yn disgwyl i'ch ci cymorth fodloni’r canlynol:
- bod wedi’i hyfforddi i ymddwyn yn dda yn gyhoeddus
- bod â natur ddiogel a dibynadwy
- bod yn iach a ddim yn peri risg o ran hylendid
- bod wedi'i hyfforddi'n llawn o ran gwneud baw y tu allan
- wedi’i ddiogelu gan yswiriant atebolrwydd cyhoeddus
- bod ar dennyn bob amser
Amlinellir rhagor o fanylion am ddisgwyliadau'r brifysgol ar y ffurflen Cytundeb Ymddygiad.
Mae rhai mathau o ymddygiad na fyddech yn disgwyl eu gweld gan gi cymorth hyfforddedig megis:
- ci sydd heb eu hyfforddi i ymddwyn yn dda yn gyhoeddus e.e. cyfarth, gwthio, neu neidio i fyny (oni bai ei fod yn dangos ymddygiad rhybuddio)
- tynnu'n gryf ar dennyn
- ci â natur ymosodol neu ofnus iawn, e.e. crynu neu wylltio
- ci sy’n cael gofal gwael ac sy'n peri risg o ran hylendid
- ci nad yw wedi cael ei hyfforddi i wneud baw y tu allan
Monitro ac Adolygu'r Polisi
Byddwn yn cadw'r polisi hwn dan adolygiad ac yn ei ddiwygio yn unol â deddfwriaeth a chanllawiau'r llywodraeth.
Cyfeiriadau
Assistance Dogs UK (2018) http://www.assistancedogs.org.uk/faqs
Audrestch, H., Whelan, C., Grice, D., Asher, L., England, G., & Freeman, S. (2015). Recognizing the value of assistance dogs in society. Disability and Health Journal, 8(4), 469-474.
Bennett O & Desai P (2016) Assistance dogs: issues, Briefing Paper to the House of Commons, Number CBP 7668, 27 Gorffennaf 2016.
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (2017) Assistance dogs: A guide for all businesses.
Kazdin, A. E. (2017). Strategies to improve the evidence base of animal‐assisted interventions. Applied Developmental Science, 21, 150–164.https://doi-org.ezproxy.bangor.ac.uk/10.1080/10888691.2016.1191952
O'Haire, M. E. (2013). Animal‐assisted intervention for autism spectrum disorder: A systematic literature review. Journal of Autism and Developmental Disorders, 43, 1606–1622. https://doi-org.ezproxy.bangor.ac.uk/10.1007/s10803-012-1707-5
O'Haire, M.E., Guérin, N. A,. & Kirkham, A. C. (2015). Animal-Assisted Intervention for trauma: A systematic literature review. Frontiers in Psychology, 6
Serpell, J., McCune, S., Gee, N., & Griffin, J. A. (2017). Current challenges to research on animal‐assisted interventions. Applied Developmental Science, 21(3), 223–233. https://doi-org.ezproxy.bangor.ac.uk/10.1080/10888691.2016.1262775
Fersiwn 3, Diwygiedig Ebrill 2025 EG