Ble rydym ni?
Gwasanaethau Myfyrwyr, Llawr Gwaelod Isaf, Neuadd Rathbone, Bangor. Gellir mynd yno o Ffordd y Coleg neu o Lôn Gariadon.
Gweler y map lleoliad ar-lein ar gyfer Neuadd Rathbone (Rhif 70).
- Mae yna ddau fynediad i Gwasanaethau Anabledd:
- Defnyddio'r Lifft: ewch i mewn trwy'r drysau gwydr awtomatig ar ochr chwith bellaf Neuadd Rathbone a dilynwch y coridor at y lifft. Rydym ar y llawr “-1” (sef y llawr isaf). Ewch allan o'r lifft, dilynwch y coridor, ewch drwy'r ystafell aros a thrwy'r drysau dwbl i'r dderbynfa.
- Dilynwch y llwybr troed wrth ymyl y drws gwydr awtomatig ar ochr chwith bellaf Neuadd Rathbone i Gwasanaethau Anabledd ac ewch i lawr y grisiau ac o amgylch yr adeilad. Yna byddwch yn cyrraedd y grisiau/ramp at y brif fynedfa.
-
Fel arall gallwch gyrraedd mynedfa 2 trwy'r gatiau ger Lôn Gariadon a defnyddio'r ramp, gan osgoi'r grisiau.
Mae'r Gwasanaeth Anabledd hefyd yn defnyddio what3words, cliciwch ar y ddolen:
Mynedfa Ffordd y Coleg: ////gweinyddu.deddf.mesur
Mynedfa Lôn Cariadon: ///anelwch.blendio.rhwyfwr