Ystyriaethau eraill os ydych chi'n atal eich astudiaeth
- myfyrwyr sy'n atal eu hastudiaethau heb gwblhau semester 1 yn llwyddiannus yn dychwelyd i'w hastudiaethau ar ddechrau'r flwyddyn academaidd nesaf. Os ydynt wedi cwblhau semester 1 yn llwyddiannus, byddant yn dychwelyd ym mis Ionawr ar gyfer 2il semester y flwyddyn academaidd nesaf. Yn y naill achos neu'r llall, bydd unrhyw farciau/gwaith anghyflawn blaenorol yn cael eu fforffedu a byddant yn dechrau gyda 'llechen lân'.
- fel rheol disgwylir i fyfyrwyr sy'n atal astudiaethau am resymau meddygol roddi tystiolaeth feddygol ar adeg yr atal a chyn dychwelyd.
- mae eich astudiaethau yn parhau i fod yn amodol ar reoliadau'r Brifysgol o ran terfynau amser: rhaid cwblhau gradd 3 blynedd o fewn 5 mlynedd a gradd 4 blynedd o fewn 6 blynedd.
- nid yw atal astudio yn ffordd o ddal i fyny ar y gwaith neu wella marciau.