Allech fod yn gymwys i gael Bwrsariaeth Bangor?
Bydd eich hawl i gael bwrsariaeth Bangor yn cael ei benderfynu trwy'r prawf modd statudol a wneir gan eich sefydliad cyllido myfyrwyr, er enghraifft Cyllid Myfyrwyr Cymru/Lloegr/Tîm EU. Mae hyn yn golygu nad oes raid i chi wneud cais am Fwrsariaeth Bangor. Os byddwch yn gymwys, anfonir llythyrau allan o ganol/diwedd mis Chwefror 2020 ymlaen. Telir taliadau bwrsariaeth yn llawn ac yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc o 1 Mawrth 2020 ymlaen.
Cliciwch ar y cyswllt isod am ragor o wybodaeth ynglŷn â Bwrsari Bangor:
https://www.bangor.ac.uk/studentfinance/current_students/2019.php.cy
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2020