Cyllid Myfyrwyr 2018/19
Ydy, mae'n adeg honno o'r flwyddyn unwaith eto pan ddylai myfyrwyr israddedig ailymgeisio am flwyddyn nesaf.
Mae'r safle we cyllid myfyrwyr ar agor i fyfyrwyr sy'n parhau i astudio ail-ymgeisio am eu cyllid flwyddyn nesaf. Er mwyn sicrhau byddwch yn derbyn eich rhandaliad cyntaf ar ddechrau'r tymor 2018/19 mae’n RHAID i chi lenwi a chyflwyno / dychwelyd eich ffurflen gais gyda'r holl dystiolaeth dim hwyrach na'r dyddiad cau
www.bangor.ac.uk/studentservices/moneyadvice/undergraduate.php.cy
Os hoffech fwy o wybodaeth am gyllid myfyrwyr, pryd i wneud cais a pha gyllid sydd ar gael, cysylltwch â'r Uned Cefnogaeth Ariannol.
Ffôn: 01248 383655 / 383637
E-bost: cymorthariannol@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mai 2018