Cynlluniau Yfory - Cyngor Gwynedd
Mae Cynlluniau Yfory yn gyfle unigryw i unrhyw un sydd â gradd 2.1 (neu gyfwerth neu uwch) ddatblygu gyrfa yng Nghyngor Gwynedd.
Os ydych chi erioed wedi meddwl y byddech chi’n hoffi gweithio i lywodraeth leol, mae Cynlluniau Yfory yn rhoi’r cyfle i chi wneud hyn.
Pwrpas Cynlluniau Yfory yw datblygu unigolion i’r safon uchaf bosib i ymgymryd â swyddi allweddol o fewn y Cyngor. Mae’r cynlluniau yn rhoi'r cyfle i unigolion dderbyn y profiadau, rhwydweithiau a chymwysterau angenrheidiol i roi sylfaen gadarn i ddechrau gyrfa yng Nghyngor Gwynedd.
Dewch i glywed gan rhai o’n hyfforddeion presennol a dysgu am y cyfleoedd fydd ar gael yn 2020!
www.cynlluniauyfory.com
Dydd Mawrth 08 Hydref 2019
12:00-13:00
Main Arts LR4
Archebu hanfodel drwy TARGETconnect.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2019