Diwrnod Cyflogadwyedd i Raddedigion 2018
Dydd Mawrth 5 Mehefin 2018, 10am-3:30pm
Neuadd Alun, A2:01
Ydych chi’n fyfyriwr blwyddyn olaf neu yn unigolyn raddedig sy’n dychwelyd i’r ardal? Dewch draw i’n Diwrnod Cyflogadwyedd ar 5ed o Fehefin 2018 lle bydd tîm ein Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yn cyflwyno gweithdai i’ch helpu cymryd rheolaeth dros eich gyrfa. Byddech yn dysgu sut i gyflwyno eich hun yn effeithiol, awgrymiadau ar gyfer chwilio am swydd a chael cymorth ymarferol gyda chyfweliadau a gweithgareddau canolfannau asesu.
I elwa’n llawn o’r gweithdai rydym yn argymell dod draw at y sesiynau bore a phrynhawn.
10:00-12.30: Byddwn yn edrych ar ffyrdd o gyflwyno eich hun yn effeithiol ar gyfer ceisiadau am swyddi, boed hynny drwy CV neu ffurflen gais, rhoi awgrymiadau ar gyfer chwilio am waith ac yn edrych ar ffyrdd o ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol wrth chwilio am swyddi.
1:30-3:30pm:Yn sesiwn y prynhawn byddwn yn edrych ar dechnegau cyfweliad a byddwch yn cael profiad ymarferol o ymarfer canolfan asesu a'r cyfle i roi eich techneg cyfweliad ar waith.
Mae’n hanfodol archebu tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn.
I ddarganfod mwy ac i archebu tocyn ewch i:
Sesiwn y bore
Sesiwn y prynhawn
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mai 2018